Allwch chi sbario ychydig oriau i gefnogi pobl fregus yn eich cymuned leol neu i roi rhywbeth yn ôl i’n harwyr GIG? Mae gennym ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael drwy ein hymgyrch Mi Fedraf, a byddem yn falch iawn o glywed gan unrhyw un sy’n dda am wrando ac yn angerddol dros helpu eraill.
Cefnogi pobl fregus yn eich cymuned leol
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr Mi Fedraf i ddarparu cefnogaeth emosiynol i bobl ar draws gogledd Cymru sy’n cael trafferthion â’u hiechyd meddwl a lles. Gellir darparu’r gefnogaeth hon dros y ffôn o’ch cartref.
Yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19, derbyniodd Mi Fedraf dros 800 o gyfeiriadau ac mae ein gwirfoddolwyr ac asiantaethau partner wedi darparu mwy na 3000 o alwadau ffôn rheolaidd i bobl sy’n cael trafferthion â’u hiechyd meddwl ar draws y rhanbarth, gan ategu at waith ein timau iechyd meddwl, sydd wedi parhau i weithredu drwy gydol y pandemig.
Cyn i COVID-19 ddechrau lledaenu ar draws ein cymunedau, roedd gwirfoddolwyr Mi Fedraf yn darparu cefnogaeth i bobl mewn ysbytai, meddygfeydd a Hybiau Cymuedol Mi Fedraf ar draws gogledd Cymru. Rydym yn gobeithio ailgyflwyno’r gefnogaeth wyneb yn wyneb hon cyn gynted â phosibl pan fydd hi’n ddiogel.
Gwirfoddolwyr i gefnogi ein harwyr GIG
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr ar hyn o bryd i ddarparu cefnogaeth yn ein Canolfan Adnoddau Lles Staff, a sefydlwyd yn ddiweddar ar dir Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan. Bydd gwirfoddolwyr â rhan allweddol wrth gefnogi’r ganolfan les o ddydd i ddydd a’r gweithgareddau therapiwtig, gan gynnig clust i wrando ar staff a all fod yn teimlo dan straen ac wedi’u llethu, a’u cyfeirio am gefnogaeth bellach sydd ar gael gan ein staff seicoleg a chwnsela a gwasanaethau arbenigol eraill.
Darganfod mwy
Darperir hyfforddiant llawn a chefnogaeth gwirfoddolwyr parhaus.
Os oes gennych ddiddordeb i ddarganfod mwy, cysylltwch â Faith Kay yn ican@wales.nhs.uk. Cofiwch nodi eich enw llawn, rhif ffôn ac unrhyw brofiad penodol rydych wedi’i gael wrth gefnogi pobl a heriau iechyd meddwl os yn bosibl, fel ein bod yn gallu defnyddio eich sgiliau a phrofiadau’n briodol.
Ewch i https://us02web.zoom.us/j/89595961634?pwd=T3YwU2hJQStXR3B6bXFjeDhEOTBZdz09 am fanylion sesiynau cynefino ar lein a gynhelir drwy Zoom, lle gellwch ddarganfod mwy am gyfleoedd gwirfoddoli a’r broses ymgeisio.
Ymunwch â chyfarfod Zoom ar Dydd Mercher 16fed o Fed am 7pm, lle gellwch ddarganfod mwy am gyfleoedd gwirfoddoli a’r broses ymgeisio.
Linc i'r cyfarfod: https://us02web.zoom.us/j/82200508931?pwd=Mk1nS1UwaGZidjNobzdpZTFWL0NsQT09
ID cyfarfod: 822 0050 8931
Cyfryngair: 616499
Dilynwch y dolenni isod i gyfarfod â rhai o’n gwirfoddolwyr: