Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn

OCaiff Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn eu darparu yn y gymuned gan dimau iechyd meddwl cymunedol a chânt eu trefnu yn unol â’r Awdurdodau Lleol. Maent yn darparu gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd, yn ogystal â gwasanaethau’r cof.


Yn y Gorllewin, mae uned yn Ysbyty Cefni yn Llangefni i gleifion ag anhwylderau gwybyddol yn bennaf. Mae gwelyau i gleifion mewnol yn yr ardal Ganolog wedi’u lleoli ym Mryn Hesketh ym Mae Colwyn ar gyfer anhwylderau gwybyddol yn bennaf ac ar ward Tegid ym Modelwyddan i bobl hŷn ag anhwylderau meddwl gweithredol. Caiff cleifion o Wrecsam a Sir y Fflint eu derbyn fel cleifion mewnol i wardiau ar gyfer henoed bregus eu meddwl yn Uned Seiciatrig Heddfan, Wrecsam. Mae un ward ar gyfer anhwylderau gwybyddol yn bennaf ac mae’r llall i bobl hŷn ag anhwylderau meddwl gweithredol.