Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau

Mae chwe Thîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol a ddarperir mewn partneriaeth â phob Awdurdod Lleol yn gweithio ledled y gogledd. Ceir partneriaethau gweithredol o fewn y Timau Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau (SMAT) lleol, yr Heddlu a’r Gwasanaethau Prawf. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig Gwasanaeth Bydwreigiaeth Arbenigol a Gwasanaeth Lleihau Niwed symudol ar gyfer chwe sir y gogledd, y mae’r ddau ohonynt wedi cael eu nodi fel enghreifftiau cenedlaethol o arfer da.


Caiff gwasanaethau dadwenwyno ac adsefydlu i gleifion mewnol eu darparu yn Hafan Wen. Adeiladwyd yr uned hon yn bwrpasol i drin camddefnyddio sylweddau/alcoholiaeth a chaiff ei gweithredu gan Adferiad, darparwr annibynnol. Mae BIPBC yn rhoi mewnbwn meddygol i’r uned hon, sydd wedi’i lleoli yn Wrecsam.