Caiff gwasanaethau cymunedol eu darparu mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol unigol, yn seiliedig ar dimau amlddisgyblaethol. Caiff gwelyau arbenigol ar gyfer cleifion mewnol eu darparu yn Ysbyty Bryn y Neuadd. Mae’r Gwasanaeth Cymorth Dwys yn darparu asesiadau cymunedol a threfniadau ar gyfer rheoli ymddygiad heriol ac mae cynlluniau byw â chymorth a chynlluniau byw â chymorth dwys datblygedig ar waith.