Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau Ymweld Cyffredinol

Canllawiau ymweld mamolaeth yma.

Mae ein hysbytai yn hollol ddi-fwg: Gwybodaeth i ddiogelu ein cleifion, ein staff, a'n hymwelwyr rhag effeithiau niweidiol ysmygu. 

Mae'n bwysig i anwyliaid ymweld â'n cleifion a rydym yn disgwyl cael cefnogaeth a pharch ein hymwelwyr o ran cynnal diogelwch ein cleifion trwy ddilyn y mesurau ymweld sydd ar waith ar yr adeg. Efallai a gyflwynir cyfyngiadau ar ymweliadau yn ddirybudd os bydd arwyddion neu achosion o heintiau ar y wardiau, i ddiogelu ein cleifion, ymwelwyr a'n staff.

Amseroedd ymweld

Mae amseroedd ymweld ag ysbytai yn Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd yn amrywio rhwng 10am ac 8pm. Gwiriwch gyda'r ward neu'r adran yn uniongyrchol i ddod o hyd i argaeledd ac amseroedd ymweld penodol. Gall amseroedd ymweld amrywio ar safleoedd ysbytai cymunedol.

Trefniadau cyffredinol o ran ymweliadau

  • Cadwch at y rheolau ynghylch glendid dwylo. Glanhewch eich dwylo gan ddefnyddio hylif alcohol neu ddŵr a sebon cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd yr ysbyty. Glanhewch hwy eto os byddwch yn cyffwrdd ag unrhyw arwynebau, megis handlenni drysau, ac eto cyn cyffwrdd ac unrhyw beth sy'n eiddo i glaf neu arwynebau y buasent yn eu defnyddio.
  • Os bydd ymwelwyr yn ymweld â chlaf sydd â haint neu fan gofal ble mae cleifion heintus, byddant yn cael eu hysbysu am unrhyw risgiau o ran heintiau a chynigir offer amddiffynnol personol priodol iddynt. Efallai bydd rhywfaint o gyfyngiadau ychwanegol ar waith, felly cysylltwch â rheolwr y ward i gael rhagor o gyngor.
  • Pan fydd ward ar gau oherwydd achosion, ni ddylid ystyried ymweld â chlaf ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol, er enghraifft, os bydd claf yn cael gofal diwedd oes, neu os oes gan glaf ddementia neu anableddau dysgu.
  • Gofynnir i ymwelwyr beidio â dod i'r ysbyty os oes ganddynt hwy neu os bydd gan aelodau eu haelwyd symptomau sy'n awgrymu COVID-19 neu'r ffliw.
  • Gofynnir i ymwelwyr beidio â dod i'r ysbyty os ydynt hwy, neu os yw aelodau eraill eu haelwyd, wedi cael dolur rhydd a/neu wedi bod yn chwydu (symptomau sy'n awgrymu byg stumog/norofeirws) yn ystod y 72 awr ddiwethaf. Os gwnewch chi ymweld â'r ysbyty, byddwch yn peryglu lles eich anwyliaid a bydd hynny hefyd yn bygwth iechyd ein staff, a fydd yn methu â gofalu am y boblogaeth os byddant yn dal haint.
  • Ni ddylai ymwelwyr sy'n debygol o ddal heintiau (oherwydd eu hoedran neu eu cyflwr) ymweld â phobl sydd yn yr ysbyty. Dylai rheolwr y ward asesu’r sefyllfa a gwneud penderfyniad unigol ynghylch ymweliadau gan blant.
  • Byddwn yn ceisio sicrhau bod ein trefniadau ymweld mor hyblyg ag y bo modd, ond ni ddylai mwy na dau ymwelydd fod wrth wely claf ar yr un pryd, oni bydd amgylchiadau eithriadol (fel y nodir isod).
    • Dim ond Rheolwr y Ward a all wneud penderfyniadau am nifer yr ymwelwyr.
    • Dylech holi staff y Ward/Adran ynghylch argaeledd ymweliadau a'r amseroedd ymweld.

Canllawiau Ymweld Unedau'r Newydd-anedig 

  • Os na all y rhiant ddod i Uned y Newydd-anedig,  gall enwebu unigolyn o'i ddewis.
  • Dim ond dau unigolyn o amgylch y crud a ganiateir a ddylai un o'r rhain yn rhiant
  • Brodyr a chwiorydd i ymweld ochr yn ochr â'r rhieni i hybu safonau'r Fenter Cyfeillgar i Fabanod a Gofal Integredig i Deuluoedd
  • Amseroedd ymweld dwywaith y dydd ar gyfer y teulu estynedig
  • Masgiau wyneb ar gael i staff a rhieni os byddant yn penderfynu eu gwisgo
  • Pe bai unrhyw achosion newydd o heintiau'n codi, dychwelyd at ganiatáu i rieni yn unig fod yn bresennol ar yr uned gyda'u babi.

Arweiniad ar ymweld â gwasanaethau pediatrig

Wedi'i ddiweddaru 23/8/2022

Arweiniad Ychwanegol ar Ymweld â Gwasanaethau Pediatrig i'r holl ymwelwyr:

  • Mae gan rieni neu brif ofalwyr fynediad anghyfyngedig yn ystod y dydd i aros gyda'u plentyn ar yr uned/ward. (un rhiant yn ystod y nos yn unig)
  • Gall brodyr a chwiorydd ymweld ond dim ond dau unigolyn a gaiff fod o amgylch y crud/gwely a dylai un o'r rhain fod yn rhiant
  • Mae'n rhaid i'r holl ymwelwyr ddilyn cyngor ac arweiniad staff
  • Mae'n rhaid i'r holl ymwelwyr ddilyn arferion da o ran hylendid y dwylo a golchi'r dwylo, gan gynnwys defnyddio'r gel alcohol a ddarperir ar y ward/uned
  • Mae'n rhaid i'r holl ymwelwyr ddilyn arferion da o ran hylendid resbiradol, sef dull 'Ei ddal, ei daflu, ei ddifa'
  • Mae'n rhaid i'r holl ymwelwyr gyfyngu ar eitemau personol gymaint â phosibl a'u cadw yn eu meddiant bob amser
  • Siaradwch â staff a rhannwch unrhyw bryderon sydd gennych fel bo modd i ni ddod o hyd i ddatrysiad.
  • Mae masgiau wyneb ar gael i staff a rhieni os byddant yn penderfynu eu gwisgo
  • Gall y sefyllfa mewn lleoliad gofal iechyd newid yn gyflym. Er diogelwch ein cleifion, ymwelwyr a staff, efallai y caiff cyfyngiadau eu hail-gyflwyno ar fyr rybudd. Byddwn yn parhau i gael ein llywio gan gyfraddau trosglwyddo yn y gymuned, niferoedd derbyn oherwydd COVID-19, achosion mewn ysbytai, Polisi Rheoli ac Atal Heintiau ac asesiadau risg lleol.

Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS)

Mae ein Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS)  yma i'ch helpu chi. Bydd ein Swyddogion PALS yn gwneud eu gorau i ddatrys problemau’n gyflym ac yn uniongyrchol gyda’r staff dan sylw. Os bydd gennych unrhyw ymholiad am y cyfyngiadau ar ymweld neu bryder ynghylch ffrind neu berthynas sydd wedi’i dderbyn i’r ysbyty, cysylltwch â PALS (9am tan 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener ac eithrio gwyliau banc).