Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwasanaeth Ffrwythloni

Rydym yn cynnig gwasanaethau ffrwythloni yn safleoedd ein tri phrif ysbyty  (Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam). Mae gennym Ymarferwyr Nyrsio Arbenigol a Gynaecolegwyr Ymgynghorol â diddordebau arbennig ym maes ffrwythlondeb a wnaiff eich cynorthwyo a'ch llywio trwy gydol eich taith ffrwythloni. 

Rydym yn gwerthfawrogi y gall y broses ymdebygu i ffigar-êt emosiynol, ac rydym yn eich annog i gadw mewn cysylltiad wrth i chi fwrw ymlaen â'ch gofal a'ch triniaeth ynghylch ffrwythlondeb. Byddwch yn cael manylion cysylltu eich Ymarferydd Nyrsio Arbenigol yn ystod eich apwyntiad cyntaf.

Sut i ddefnyddio ein gwasanaethau ffrwythloni

Rydym yn cynnig gwasanaethau ffrwythloni i'r sawl sy'n profi anawsterau wrth geisio dod yn feichiog. Mae triniaethau ffrwythloni ar gael i gleifion cymwys sy'n bodloni meini prawf penodol. Bydd eich meddyg teulu yn eich asesu i ddechrau, ac wedi hynny, efallai cewch eich cyfeirio i gael profion ac archwiliadau yn eich ysbyty lleol. Sgwrsiwch â'ch meddyg teulu i ddechrau os ydych chi'n pryderu am anffrwythlondeb posibl.

Y mathau o wasanaethau rydym yn eu darparu

Yn ystod eich apwyntiad cyntaf, byddwn yn trafod eich hanes meddygol a chymdeithasol er mwyn deall beth sydd arnoch ei angen gan ein gwasanaeth ffrwythloni. Yna, byddwn yn cynnig ymchwiliadau a phrofion perthnasol i ganfod a oes unrhyw achos penodol wrth wraidd yr anffrwythlondeb. Bydd apwyntiadau dilynol yn cynnwys trafodaethau ynghylch canlyniadau eich ymchwiliad a'ch profion er mwyn parhau â chynllun triniaeth a gofal yn ymwneud â ffrwythloni.

Fel rhan o'n gwasanaethau ffrwythloni, byddwch yn cael cyngor ynghylch sut i wella ffrwythlondeb trwy sicrhau bod eich iechyd ar ei orau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau beichiogrwydd iach a baban iach. Trwy ddilyn y cyngor hwn ynghylch iechyd a ffordd o fyw, gallwch hefyd wella'r cyfraddau llwyddiant os bydd angen triniaethau ffrwythloni.

Ceir llawer o bethau a allai achosi anffrwythlondeb. Fodd bynnag, weithiau, gall fod yn anodd canfod achos problemau ffrwythlondeb. Rydym yn cynnig y gwasanaethau ymchwilio dilynol:

  • Ymchwiliadau cychwynnol ynghylch ffrwythlondeb
  • Profion gwaed yn gysylltiedig â'r hormonau i gadarnhau lefelau ofylu a gweithrediad boddhaol yr ofarïau
  • Sgan uwchsain o'r pelfis i ganfod unrhyw abnormaleddau yn y pelfis
  • Swabiau yn y wain gan gynnwys rhai i ganfod Clamydia
  • Hysterosalpingogram (HSG) i wirio eglurder y tiwbiau Ffalopio
  • Dadansoddi semen
  • Profion gwaed i asesu hormonau

Bydd canlyniadau'r ymchwiliadau yn helpu i gynnig arweiniad ynghylch triniaethau posibl i ffrwythloni. Gellir cynnig yr opsiynau canlynol o ran triniaethau:

  • Gellir defnyddio meddyginiaethau i wella ofylu
  • Efallai bydd angen llawdriniaeth twll clo os bydd y clinigydd yn argymell hynny.
  • Efallai bydd angen i ni eich cyfeirio at wasanaethau canolfan drydyddol i gael triniaethau arbenigol ynghylch ffrwythlondeb megis ffrwythloni In Vitro (IVF).Gellir ystyried cyfeirio at glinigau IVF ar ôl llawdriniaeth twll clo i dynnu chwydd yn y tiwb neu os cadarnheir abnormaleddau yn y sberm.

Bydd ein tîm yn trafod yr opsiynau perthnasol o ran triniaethau â chi i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth dda o ofal a thriniaethau yn ymwneud â ffrwythlondeb.

Clinigau ffrwythloni

Ceir tri chlinig ffrwythloni y gallwn gyfeirio pobl atynt trwy law y GIG. Ariennir hyn gan Wasanaeth Comisiynu Iechyd Cymru.

Byddwch yn cael eich cynghori i wneud eich gwaith ymchwil eich hun a chadarnhau at ba glinig y dymunwch gael eich cyfeirio. Mae'r Gymdeithas Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg (HFEA) yn llywodraethu holl glinigau ffrwythloni'r DU. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan HFEA, yn cynnwys cymorth i'ch galluogi i gymharu clinigau ffrwythloni fel y gallwch ddewis clinig ar sail gwybodaeth. Bydd cyplau o'r un rhyw a merched sengl y mae arnynt angen gwasanaeth ffrwythloni mewngroth gan ddefnyddio sberm rhoddwr yn cael eu cyfeirio at Ganolfan Ffrwythloni Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru, yr Amwythig

Adnoddau a dolenni defnyddiol