Neidio i'r prif gynnwy

Cyrsiau bwyd a maetheg i weithwyr cymunedol a gweithwyr iechyd proffesiynol

Rydym yn darparu hyfforddiant o safon ar fwyd a maetheg ar gyfer gweithwyr cymunedol a gweithwyr iechyd proffesiynol megis staff iechyd a gofal cymdeithasol, gweithwyr cymorth i deuluoedd, cynorthwywyr addysgu a gwirfoddolwyr.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag Agored Cymru ac Addysg Oedolion yng Nghymru i gynnig opsiynau hyfforddi achrededig. Mae hyn yn cynnwys tystysgrif lefel 2 mewn Sgiliau Bwyd a Maetheg sy’n addas ar gyfer y rhai sy’n bwriadu cyflwyno mentrau bwyta’n iach gyda’u grŵp cymunedol. Mae’r hyfforddiant hwn yn cefnogi gweithwyr cymunedol i hyrwyddo negeseuon bwyta’n iach yn seiliedig ar dystiolaeth, wedi’i hysbysu gan y Canllaw Bwyta’n Iach.

Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant ac adnoddau ychwanegol i weithwyr cymunedol sy’n dymuno cynnal eu cyrsiau eu hunain gan gynnwys ‘Dewch i Goginio’. Mae hwn yn gwrs ymarferol sy’n helpu i feithrin hyder, gwybodaeth a sgiliau i baratoi prydau iach a maethlon i deuluoedd. Canfod mwy o wybodaeth am ein cyrsiau bwyd a maetheg.

Adborth o’n cyrsiau bwyd a maetheg

“Rwyf wedi dysgu pwysigrwydd diet cytbwys a sut y gallaf ei gyflwyno i blant mewn ffordd a gall gadw eu diddordeb a’u brwdfrydedd” - Cynorthwyydd Addysgu

“Byddaf yn rhannu’r wybodaeth hon â’r rhieni rwy’n eu gweld bob dydd ar ymweliadau arferol, yn enwedig ymweliadau diddyfnu (dechrau bwydydd solet)” - Gweithiwr Teulu

Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau gydag aelodau o’r teulu a chydweithwyr am bynciau amrywiol yr ydym wedi ymdrin â hwy ar y cwrs”- Hyfforddwr Ymarfer Corff / Staff Canolfan Hamdden