Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd

Rydym yn dîm o Ddeietegwyr Cofrestredig, Maethegwyr Cofrestredig a Gweithwyr Cymorth Deieteg. Rydym yn gweithio â gweithwyr proffesiynol eraill, a gweithwyr cymunedol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Awdurdod Lleol ac Addysg, sefydliadau cymuned lleol a’r sector gwirfoddol. Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a’n sgiliau arbenigol i:

  • Cyfleu negeseuon allweddol am fwyd a maetheg
  • Cyflwyno cyrsiau achrededig a hyfforddiant ar fwyd a maetheg
  • Cefnogi lleoliadau cymunedol megis meithrinfeydd, cylchoedd chwarae, ysgolion a gweithleoedd i ddarparu bwyd a diod iach

Rydym yn defnyddio’r ymchwil iechyd cyhoeddus a gwyddonol mwyaf diweddar ar fwyd, iechyd a chlefydau i roi negeseuon ymarferol sy’n helpu pobl i wneud dewisiadau iach o ran bwyd a ffordd o fyw.