Mae gwisgo a dadwisgo yn rhan fawr o'n bywyd o ddydd i ddydd. Gall hefyd fod yn dasg gymhleth ac mae angen i blant feistroli nifer o sgiliau i fod yn llwyddiannus. Pan fydd plant yn cael anhawster gyda sgiliau motor, cydlynu, cydbwysedd, sgiliau motor mân a dirnadaeth, efallai y byddwch yn gweld bod hyn yn effeithio ar eu gallu i wisgo eu hunain yn annibynnol.
Cyn gwisgo, meddyliwch am y sgiliau motor mân a'r sgiliau motor mawr y gallai'r plentyn fod eu hangen. Bydd darparu'r cyfleoedd i ddysgu'r sgiliau hyn yn bendant o gymorth wrth ddysgu sut mae gwisgo a dadwisgo. Gall cymryd rhan yn y gweithgareddau fod yn hwyl a gall hefyd helpu i ddatblygu'r sgiliau hanfodol e.e. cydbwysedd, sefydlogrwydd craidd, croesi llinell ganol, sgiliau dwy law a gafaeliad pinsiwrn.
Ynghyd â syniadau gweithgareddau sgiliau motor mwy cyffredinol, mae nifer o weithgareddau a fydd o gymorth i ddatblygu sgiliau gwisgo.
Syniadau cyn-gwisgo
- Gwisgo gwisg ffansi - pwy sydd ddim eisiau bod yn archarwr am y dydd!
- Rhoi gwisg am y ddol, y tedi neu'r tegan
- Gwisgo crysau neu ffedogau mawr wrth wneud gweithgareddau coginio neu chwarae gemau a all wneud llanast
- Chwarae dillad cerddorol - rhaid i'r plant wisgo cymaint o haenau ag y bo modd cyn i'r gerddoriaeth ddod i ben
- Chwarae 'Simon yn Dweud' ac ymestyn ar hyd pob rhan o'r corff
- Defnyddio stribed botymau, neidr botymau neu sipio a dadsipio'r drws ar babell chwarae
- Gofyn i'r plentyn helpu i ddod o hyd i a pharu sanau coll pawb!
Egwyddorion Cyffredinol
- Meddyliwch am safle'r plentyn, maent yn fwy tebygol o weld bod y dasg yn haws os yw'n eistedd ar y llawr neu ar gadair. Dylai hyn leihau'r angen iddo gydbwyso a'i gwneud yn haws i gyrraedd ei draed er mwyn gwisgo sanau a throwsus!
- Ceisiwch gynnig cyfleoedd rheolaidd i ymarfer. Gall boreau ysgol fod yn brysur felly dechreuwch ar benwythnosau neu yn ystod gwyliau'r ysgol
- Yn aml, mae'n haws dechrau gyda dadwisgo, felly gofynnwch iddo ddadwisgo cyn mynd i'r gwely. Fel arfer, mae pyjamas yn haws i'w gwisgo felly byddai hwn yn lle da i ddechrau
- Meddyliwch am ble'r ydych am eistedd, y tu ôl neu o flaen y plentyn? Fel hyn byddwch yn gallu defnyddio iaith ac awgrymiadau cyson i helpu i'w arwain
- Os oes drych gerllaw, anogwch y plentyn i wirio os yw wedi gwisgo'n gywir
- Gosodwch ddillad y plentyn mewn trefn cyn dechrau, os ydych yn cadw'r dillad yn yr un lle, dylai'r plentyn ddysgu'n gyflym beth sydd ei angen arno i wisgo a ble i ddod o hyd i'r dillad.
- Defnyddiwch ddillad llaes i ddechrau
- Defnyddiwch ddillad gyda logo neu luniau ar y tu blaen a sanau gyda sawdl a bodiau lliw gwahanol
- Atgoffwch y plentyn bod y label i fod ar y cefn
- Efallai y bydd ambell blentyn yn dewis gwisgo ar ei ben ei hun a dangos i chi ar ôl gorffen
- I'r sawl sydd angen ychydig mwy o anogaeth, ceisiwch ddefnyddio siartiau gwobrwyo neu ddefnyddio cerddoriaeth; awgrymwch eu bod yn gwisgo cyn diwedd eu hoff gân
- Gallai awgrymiadau gweledol fod yn ddefnyddiol a gallwch ddod o hyd iddynt ar-lein ar wefan Do2Learn
Os yw eich plentyn yn cael anhawster gydag elfen benodol o wisgo, edrychwch ar y taflenni cyngor am gyngor ychwanegol. Mae gennych daflenni cyngor penodol ar gyfer cau dillad megis botymau a sipiau a chareiau yn ogystal â gwisgo cotiau, crysau-t a chrysau a sannau.
Mae mwy o wybodaeth ar gael am gael dillad y ffordd gywir a syniadau am drefnu a gwisgo. Peidiwch â rhoi gormod o bwysau ar y plentyn i ddechrau, mae canmoliaeth yn bwysig ac os yw eich plentyn yn mynd o gael ei wisgo gennych chi i roi cynnig arni ei hun, yna ni ddylem boeni gormod am gael pethau'n berffaith ar unwaith.
Fideos ar-lein i helpu gyda thechnegau sgiliau gwisgo:
Sgiliau dadwisgo ar gyfer plent
Dysgu plentyn sut mae gwisgo côt
Cau sip
Cau botymau
Cau careiau