Neidio i'r prif gynnwy

Sgiliau Motor Mân

Mae ein dwylo angen datblygu cryfder a deheurwydd drwy chwarae, archwilio a rhyngweithio gyda theganau amrywiol. Mae datblygiad sgiliau motor mân yn caniatáu i ni gwblhau tasgau pwysig megis dysgu sut mae dal pensil lliw, defnyddio sisyrnau a chau botymau. Meddyliwch am eich diwrnod a faint o dasgau rydych chi'n eu gwneud gan ddefnyddio'ch bysedd bob dydd.

Carreg filltir mewn datblygiad sgiliau motor mân yw'r gallu i ynysu'r bys mynegai, mae plant fel rheol yn datblygu hyn yn ifanc yn 6 mis oed. Gallant bwyntio at wrthrychau megis golau neu fwyd. Bydd plant hefyd yn defnyddio'r sgil i ddefnyddio eu teganau, megis ffôn  neu gofrestr arian ar ffurf tegan. Gweithgareddau ynysu bys.

Grip pinsiwrn yw'r gallu i godi gwrthrych bach gyda phen y bawd a'r bys mynegai. Dyma pan  fydd y bawd a'r bys mynegai yn dod at ei gilydd i greu gofod rhwng y bysedd, fel O. Rydym yn defnyddio'r sgil i godi gwrthrychau mân ar gyfer bwydo neu gau careiau. Gweithgareddau cryfhau grip pinsiwn. 

Gall sgiliau trin mewn llaw fod yn un o'r sgiliau mwyaf cymhleth a ddefnyddir. Mae'n caniatáu i ni drin gwrthrychau o gledr y llaw at y bysedd heb gymorth y llaw arall.  Esiampl fyddai dal gleiniau ac yna ac yna ei roi ar flaen llinyn. Gweithgareddau trin mewn llaw.

Y grip mwyaf defnyddiol a swyddogaethol yr ydym yn ei ddatblygu ar gyfer llawysgrifen yw'r grip trybedd. Defnyddir y sgil hwn ar gyfer gweithgareddau o ddydd i ddydd, yn benodol ar gyfer y gweithgareddau megis llawysgrifen. Dysgu eich plentyn i ddatblygu grip trybedd da yw'r ffafrau gorau y gallech ei wneud. Dyma ychydig o ddolenni â syniadau gweithgaredd i helpu i ddatblygu'r sgiliau hyn:

  • Cymalau gor-symudedd (Hypermobile) 
  • Gweithgareddau motor mân ar gyfer plant 3-4 mlwydd oed
  • Gweithgareddau motor mân ar gyfer plant 5-10 mlwydd oed.
  • Gweithgareddau motor mân ar gyfer plant 11-16 mlwydd oed

Fideos ar-lein i helpu i ddatblygu sgiliau motor mân:
Y Snap Crocodil ar gyfer datblygu gafaeliad pensil
Gweithgareddau clai i helpu gyda datblygiad sgiliau motor mân
Sgiliau Motor Mân Little Learners