Neidio i'r prif gynnwy

Therapi Galwedigaethol

Gall damwain, salwch a heneiddio droi gweithgareddau bob dydd yn heriau sy’n gostwng annibyniaeth a thanseilio ein synnwyr o hunaniaeth.

Mae Therapyddion Galwedigaethol yn cydnabod bod gallu gwneud y gweithgareddau bob dydd hyn yn hanfodol i iechyd a lles.  

Mae Therapyddion Galwedigaethol (ThG): 

  • Yn gweithio gyda phobl o bob oed a chefndir sy’n cael eu heffeithio gan ddamwain, salwch corfforol a meddyliol, anabledd neu heneiddio
  • Darparu cymorth a hyfforddiant mewn gweithgareddau bob dydd, megis bathio, gwisgo, bwyta, garddio, gweithio a dysgu
  • Cynnig cyngor ar addasu'r cartref, gweithle neu ysgol i gwrdd ag anghenion unigol neu argymell offer i gynorthwyo gyda gweithgareddau bywyd bob dydd

Mae galwedigaeth yn cynnwys bob gweithgaredd bob dydd megis gwneud diod poeth, defnyddio cludiant cyhoeddus a chymdeithasu.  Mae ein gweithgareddau bob dydd yn rhoi synnwyr o hunaniaeth a phwrpas i ni. Mae ThG yn datblygu strategaethau ymarferol ar gyfer pobl sy’n wynebu heriau fel y gallent barhau i ffynnu yn eu bywydau. Maen nhw’n gweithio mewn nifer o wahanol rolau a lleoliadau megis ysbytai, ysgolion a chartrefi’r cleientiaid.

Mae ThG yn defnyddio ystod o strategaethau ac offer arbenigol i alluogi pobl i gyflawni eu nodau.  Gall hyn amrywio o helpu rhywun i adennill eu hyder i siopa neu goginio heb gymorth ar gyfer y teulu neu ddychwelyd i weithio ar ôl salwch corfforol neu feddyliol.  

Maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth i greu datrysiadau ymarferol i’r problemau sy’n effeithio eu hannibyniaeth.