Neidio i'r prif gynnwy

Sgiliau Motor Mawr

Beth yw sgiliau motor mawr?

Mae sgiliau motor mawr yn gofyn am symudiadau gan y corff cyfan ac yn cynnwys defnyddio cyhyrau mawr y corff i gyflawni swyddogaethau bob dydd, fel sefyll a cherdded, rhedeg a neidio, ac eistedd yn unionsyth wrth y bwrdd. Maent hefyd yn cynnwys sgiliau cydlynu llygaid-llaw megis sgiliau pêl (taflu, dal a chicio) yn ogystal â reidio beic a nofio.

Pam eu bod yn bwysig?

Mae sgiliau motor mawr yn bwysig ar gyfer sgiliau o ddydd i ddydd, gan gynnwys gwisgo (ble byddwch angen gallu sefyll ar un goes a gwisgo trowsus heb ddisgyn) a dringo i mewn ac allan o'r car a'r bath.  Gallant hefyd effeithio ar dasgau o ddydd i ddydd megis eistedd a chodi oddi ar y toiled, cerdded i fyny ac i lawr y grisiau, chwarae yn y parc gyda'n ffrindiau a hyd yn oed eich helpu i eistedd wrth y bwrdd a bwyta swper!

Efallai y bydd plentyn gydag anawsterau motor mawr yn osgoi gwersi Ymarfer Corff, efallai y bydd yn ymddwyn yn wirion ac fel clown y dosbarth neu'n rhuthro drwy weithgareddau mae'n cael anhawster eu gwneud. Efallai na fydd gan y plentyn lawer o hyder oherwydd ei fod yn ymwybodol o'i anawsterau.

Os na all plentyn sefydlogi a rheoli'r cyhyrau mawr yn ei gorff bydd yn effeithio ar ei allu i wneud sgiliau motor mân fel ysgrifennu, darlunio a thorri, ac effeithio ar ei ddygnwch i ymdopi â diwrnod llawn yn yr ysgol (eistedd yn unionsyth wrth y ddesg, symud rhwng ystafelloedd dosbarth, yn cario bag ysgol trwm).

Pa gymorth gall rhieni ac athrawon ei gynnig?

Gall rhieni ac athrawon annog datblygu sgiliau motor drwy wneud gweithgareddau corfforol. Dylai'r rhain gael eu gwneud mewn ffordd hwyliog fel bod y plentyn yn eu mwynhau yn hytrach na theimlo fel eu bod yn waith. Dechreuwch gyda'r lefel hawsaf ac wrth i'r plentyn wella, gellir gwneud y gweithgareddau'n anoddach.

Meddyliwch pa weithgareddau sy'n bwysig i'ch plentyn, a oes sgiliau y mae eu ffrindiau neu frodyr a chwiorydd i gyd wedi'u dysgu ac mae'n parhau i gael trafferth â nhw?

Oes yna sgil mae ganddo ddiddordeb ei ddysgu, neu oes ganddo ddiddordebau sy'n fwy pwysig iddo?

Rhaid i blentyn ddangos cymhelliant i ddysgu sgiliau newydd er mwyn cyflawni ei nod terfynol, mae gwneud rhywbeth nad ydych yn ei hoffi yn ei gwneud hi'n anoddach llwyddo ar y dasg honno oni bai bod gennych y parodrwydd a'r angerdd i'w wneud yn bosibl.

Cydbwysedd
Mae cydbwysedd yn datblygu gyda symudiad y corff yn erbyn disgyrchiant. Yma, byddwch yn dod o hyd i weithgareddau i ddatblygu'r sgiliau hyn. Mae craidd cryf yn helpu gyda chydbwysedd a gellir gwneud y gweithgareddau rheoli osgo ynghyd â'r sgiliau cydbwysedd. Bydd ymwybyddiaeth dda o'r corff (gwybod ble mae holl rannau o'r corff o ran ei gilydd a sut i'w symud yn effeithiol) hefyd yn helpu gyda chydbwysedd.

Sgiliau Pêl
Mae sgiliau pêl yn sgil arall mae plant yn ei ymarfer yn rheolaidd yn yr ysgol, yn ystod gwersi ymarfer corff ac ar gyfer diwrnod mabolgampau. Yn aml, rydym yn gweld nad yw hwn yn faes sy'n cael ei ymarfer yn aml gartref, ond mae'n chwarae rhan enfawr yng ngallu plentyn i gymryd rhan mewn gemau grŵp yn yr ysgol. Felly, ewch amdani ac ymarferwch gartref hefyd.

Cynllunio Symudiadau
Er mwyn gallu cynllunio symudiadau a dysgu sgiliau newydd, mae angen i blentyn gael ymwybyddiaeth o'r corff, ymwybyddiaeth o ofod a sgiliau symud corff. Gellir ymarfer y sgiliau hyn ar wahân neu eu rhoi gyda'i gilydd i greu cwrs rhwystrau. Gweithgareddau ar gyfer symudiadau dwylo a breichiau dwyochrog, tôn cyhyrau isel a neidio ar drampolîn.

Reidio Beic
Reidio Beic yw un o'r sgiliau motor mawr anoddaf i blant ei ddysgu. Rydym yn aml yn darparu sgiliau beicio, ond rydym yn gofyn i chi roi cynnig arni i ddechrau, drwy ddefnyddio'r awgrymiadau cyn cysylltu â ni. 

Dyma ychydig o ddolenni defnyddiol isod:
Sefydlogrwydd craidd - plant iau
Sefydlogrwydd craidd - plant hŷn
Gweithgaerddau Bwrdd Sgwter
Sefydlogrwydd Craidd a Chydbwysedd - Royal Free Hampstead

Fideos ar-lein i helpu gyda sgiliau motor mawr:
Gweithgareddau i helpu gyda sgiliau motor mawr
Sgiliau pel i helpu gyda sgiliau motor mawr
Gweithgareddau'n defnyddio tâp
Gweithgaredd Drysfa Pêl