Mae sgan uwchsain a berfformir gan uwchsonograffydd yn rhoi delweddau o'r corff heb ddefnyddio pelydr-X. Mae'n defnyddio tonnau sain amledd uchel sy'n mynd drwy'r croen ac yn cael eu hadlewyrchu gan yr organau mewnol. Gan ddefnyddio cyfrifiadur, mae’r ‘adleisiau’ yn cael eu trosi’n lluniau ar y sgrin.
Yn ystod yr archwiliad, rhoddir gel uwchsain ar y rhan o'r corff sy'n cael ei harchwilio. Yna, bydd yr uwchsonograffydd yn dal teclyn bach ar eich croen ac yn ei symud dros y rhan sy'n cael ei harchwilio. Bydd hyd y sgan yn dibynnu ar y math o sgan uwchsain y byddwch yn ei gael. Gall gymryd rhwng 10 munud ac awr. Mae'n bosibl y byddwch chi'n cael cyfarwyddiadau i beidio â bwyta rhai pethau penodol neu i beidio â bwyta o gwbl cyn rhai sganiau uwchsain. Efallai y bydd gofyn i chi yfed dŵr a dod i'r apwyntiad â phledren lawn cyn mathau eraill o sganiau. Darllenwch eich llythyr apwyntiad yn ofalus i wneud yn siŵr eich bod yn paratoi'n gywir ar gyfer eich sgan.
Beichiogrwydd a bwydo ar y fron
Ar gyfer rhai archwiliadau, bydd angen i ni wybod a yw'n bosibl eich bod yn feichiog neu a ydych chi'n bwydo ar y fron. Rydym yn gofyn hyn er mwyn sicrhau bod unrhyw risg o ymbelydredd i'r ffetws neu'r babi mor isel â phosibl. Nid oes angen i ni ofyn bob amser. Bydd yn dibynnu ar y math o archwiliad.
Pan ei bod hi'n amlwg bod manteision cael yr archwiliad yn fwy na'r risg fach o ymbelydredd, gallwn, ar ôl trafod yr holl opsiynau gyda chi, fwrw ymlaen â'r archwiliad. Gall y risg o beidio â gwneud yr archwiliad fod yn llawer mwy na'r risg fach o ymbelydredd.
Os ydych chi'n bwydo ar y fron a bod angen archwiliad meddygaeth niwclear arnoch chi, mae'n bosibl y bydd rhaid i chi beidio â bwydo am gyfnod neu stopio bwydo'n gyfan gwbl. Byddwn yn rhoi cyngor a chanllawiau i chi am unrhyw ragofalon sy'n rhaid i chi eu cymryd.
Yn unol â chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Bwrdd Iechyd, ni chaniateir i blant fynd i'r ystafell sgan yn ystod eich apwyntiad uwchsain. Gwnewch drefniadau gofal plant amgen gan nad oes cyfleuster warchod o fewn yr adran Radioleg. Mae parcio ceir ar safleoedd ysbytai yn heriol iawn a gall gymryd amser sylweddol i ddod o hyd i le parcio.
Caniatewch ddigon o amser i barcio neu ystyriwch drefnu i rywun eich gyrru yno. Oherwydd y nifer uchel o apwyntiadau uwchsain sy'n cael eu trefnu trwy gydol y dydd, os ydych yn hwyr ar gyfer eich archwiliad, efallai na fydd yn bosibl eich gweld ac efallai y bydd angen i chi wneud apwyntiad arall ar gyfer diwrnod gwahanol.
Clinigau Uwchsain: