Neidio i'r prif gynnwy

Sganio CT

Mae Tomograffeg Gyfrifiadurol (a elwir yn CT) yn broses sganio sy'n defnyddio ymbelydredd pelydr-X a chyfrifiadur i gynhyrchu delweddau 3 dimensiwn manwl drwy'r rhannau o'r corff sy'n cael eu harchwilio. Bydd sgan CT yn helpu eich meddyg neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol i ymchwilio i'ch cyflwr meddygol, gan roi diagnosis a thriniaeth lle bo hynny'n briodol.

Yn ystod sgan CT, bydd gofyn i chi orwedd yn llonydd ar fwrdd y sganiwr sy'n symud yn ôl ac ymlaen drwy'r peiriant sganio. Er y byddwch chi ar eich pen eich hun yn yr ystafell sganio yn ystod y sgan, bydd y radiograffydd yn gallu eich gweld chi ac mae'n bosibl i chi siarad â'r radiograffydd ar unrhyw adeg, drwy'r intercom. 

Ni ddylech deimlo unrhyw ôl-effeithiau annymunol ar ôl y sgan a dylech allu ailafael yn eich gweithgareddau arferol ar unwaith.

Bydd canlyniadau eich sgan CT yn cael eu hanfon at y meddyg neu'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a wnaeth y cais am yr archwiliad. Byddant yn gwneud trefniadau priodol i'ch gweld chi eto. Gall hyn fod ar y ward os ydych chi'n glaf mewnol, neu yn eich apwyntiad clinig nesaf.

Sut mae sgan CT yn gweithio?

Mae sgan CT yn defnyddio pelydr-X i gynhyrchu delweddau 3D o'ch corff. Mae'r delweddau'n cael eu defnyddio i wneud diagnosis, i arwain triniaeth a monitro ystod eang o glefydau ac anafiadau. Ar gyfer rhai sganiau CT, byddwn yn rhoi tiwb bach yn eich braich er mwyn i ni chwistrellu lliw sy'n ymddangos ar belydr-X. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn gofyn i chi yfed dŵr neu gymysgedd o ddŵr â lliw ynddo cyn eich sgan. Bydd y rhain yn ein helpu i weld rhai rhannau o'r corff yn well.