Neidio i'r prif gynnwy

Pelydr-X

Radiograffeg yw delweddu unrhyw ran o'r corff gan ddefnyddio pelydrau-X. Mae pelydrau-X yn arbennig oherwydd bod ganddyn nhw lefelau uchel iawn o egni sy'n caniatáu iddyn nhw dreiddio drwy'r corff a chreu delwedd/llun.

Mae profion pelydr-X yn ddefnyddiol er mwyn gwneud diagnosis o glefydau ac anafiadau i wahanol rannau o'r corff. Bydd Adran Pelydr-X yn cynnwys sawl ystafell wahanol ac mae'n bosibl bod peiriannau gwahanol ym mhob ystafell. Mae gwahanol rannau o'ch corff yn amsugno pelydrau-X mewn gwahanol feintiau. Mae meinwe meddal a'r ysgyfaint yn amsugno llai o belydrau X na dannedd ac esgyrn, felly maen nhw'n edrych yn dywyllach ar ddelweddau pelydr-X. Mae dannedd ac esgyrn yn edrych yn wynnach ar y delweddau.

Bydd radiograffydd yn cynnal y profion pelydr-X a byddant yn cael eu prosesu ar gyfrifiadur. Mae'r delweddau hyn ar gael i feddygon arbenigol, radiolegwyr, a fydd yn adrodd ar y delweddau. Mae'n bosibl i feddygon eraill yn yr ysbyty, mewn clinigau ac ar y wardiau weld y delweddau. Os yw eich Meddyg Teulu yn eich anfon am brawf pelydr-X, yna bydd yn derbyn adroddiad gan yr ysbyty ar eich delweddau.

Mae pelydr-X yn gyflym, yn hawdd ac ar gael yn eang.

Enghreifftiau o sut y defnyddir pelydr-X:

Radiograffeg Ddeintyddol

Dyma'r math mwyaf cyffredin o archwiliad pelydr-X. Cymerir miliynau o ddelweddau pelydr-X deintyddol bob blwyddyn yn y DU. Maen nhw'n cael eu defnyddio i roi diagnosis o glefydau yn y geg, megis pydredd dannedd neu glefyd y deintgig. Maen nhw hefyd yn cael eu defnyddio i gynllunio triniaeth a monitro iechyd eich dannedd.

Radiograffeg gyffredinol

Mae radiograffeg gyffredinol yn defnyddio pelydr-X i gynhyrchu delweddau 2D o du mewn eich corff. Mae archwiliadau pelydr-X yn helpu i roi diagnosis o gyflyrau megis haint ar y frest ac i ganfod a yw esgyrn wedi'u niweidio neu wedi torri. Defnyddir pelydr-X mewn sganiau i fonitro dwysedd esgyrn (DXA) hefyd.

Fflworosgopi

Mae fflworosgopi yn defnyddio pelydr-X i gynhyrchu delweddau sy'n symud o rannau’r corff a’u harddangos ar sgrin. Maen nhw'n cael eu defnyddio i roi diagnosis a monitro cyflyrau megis eich system dreulio, llif y gwaed (system gardiofasgwlaidd) a'r system wrinol. Gan ddibynnu ar y math o archwiliad a wneir, mae'n bosibl y bydd angen defnyddio lliw a fydd yn dangos ar belydr-X. Gellir rhoi'r lliw drwy'r geg neu mewn pigiad.

Radioleg Ymyriadol

Mae radioleg ymyriadol yn defnyddio pelydr-X i gynhyrchu delweddau sy'n symud a ellir eu defnyddio i benderfynnu ar driniaeth a'i roi. Mae'n cael ei ddefnyddio i roi diagnosis a thrin ystod eang o gyflyrau megis rhwystrau yn eich calon, pibellau gwaed, pibell fwyd (oesoffagws) a'r arennau.

Mae meddygon hefyd yn ei ddefnyddio i'w harwain at glefyd mewn rhannau o'r corff er mwyn cymryd sampl (biopsi) neu i roi triniaeth. Gall y math hwn o ddelweddu a thriniaeth leihau'r angen am lawdriniaeth.

Tomograffeg gyfrifiadurol (CT)

Mae tomograffeg gyfrifiadurol neu CT yn defnyddio pelydr-X i gynhyrchu delweddau 3D o'ch corff. Mae'r delweddau'n cael eu defnyddio i wneud diagnosis, i arwain triniaeth a monitro ystod eang o afiechydon ac anafiadau. Mae gofyn i chi gael tiwb bach yn eich braich ar gyfer rhai sganiau CT, er mwyn chwistrellu lliw yn ystod yr archwiliad a fydd yn ymddangos ar belydr-X. Mae'n bosibl hefyd y bydd gofyn i chi yfed dŵr neu gymysgedd o ddŵr a lliw cyn eich sgan. Bydd y rhain yn ein helpu i weld rhai rhannau o'r corff yn well.

Meddygaeth niwclear

Mae meddygaeth niwclear yn defnyddio ychydig bach o sylwedd ymbelydrol sydd fel arfer yn cael ei chwistrellu i mewn i wythïen (neu'n cael ei lyncu neu ei anadlu i mewn). Bydd y sganiwr yn canfod yr ymbelydredd lefel isel hwn sy'n dod allan o'ch corff a bydd yn casglu delweddau. Bydd y delweddau hyn yn dangos sut mae eich corff yn gweithio. Byddant yn cael eu defnyddio i wneud diagnosis, rhoi triniaeth a monitro ystod eang o glefydau a chyflyrau. Fel arfer, mae'r ymbelydredd yn eich corff yn lleihau i lefel na ellir ei ganfod ar ôl rhai dyddiau.

PET-CT neu sganio PET-MRI

Mae PET (tomograffeg allyriadau positron) yn fath o sgan meddygaeth niwclear sy'n cynhyrchu delweddau 3D ar y cyd â CT neu MRI. Mae ychydig bach o sylwedd ymbelydrol yn cael ei roi i mewn i wythïen. Defnyddir delweddau PET i wneud diagnosis a monitro ystod eang o glefydau a chyflyrau. Fel arfer, mae'r ymbelydredd yn eich corff yn lleihau i lefel na ellir ei ganfod ar ôl rhai dyddiau.

Uwchsain a MRI

Dyma fathau o ddelweddu nad ydynt yn defnyddio pelydrau-X na sylweddau ymbelydrol. Gellir eu defnyddio i wneud diagnosis o ystod o gyflyrau ond ni ellir eu defnyddio ar gyfer popeth. Bydd yr arbenigwr delweddu bob amser yn ystyried y mathau hyn o ddelweddu i weld a ydyn nhw’n addas ar eich cyfer chi.