Neidio i'r prif gynnwy

MRI

Beth yw MRI?

Ystyr MRI yw delweddu cyseiniant magnetig. Mae'n golygu bod cyfuniad o fagnetau cryf a thonnau radio yn cynhyrchu lluniau manwl o du mewn eich corff. Yn wahanol i sganiau pelydr-X a CT (tomograffeg gyfrifiadurol), nid yw sganiau MRI yn defnyddio ymbelydredd.

Beth yw pwrpas sgan MRI?

Gall sgan MRI ein helpu i ddod o hyd i'r hyn sy'n achosi eich problem a phenderfynu ar yr opsiynau gorau ar gyfer ei drin. Mae sgan MRI yn arbennig o dda ar gyfer adnabod problemau yn yr asgwrn cefn, yr ymennydd a'r cymalau. Nid yw pelydr-X safonol yn rhoi'r un lefel o fanylder â sgan MRI. Mae sganiau MRI wedi gwella dros y blynyddoedd ac mae'n bosibl cael sganiau MRI manwl o'r corff cyfan.

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf i'n cyrraedd am fy sgan?

Bydd y radiograffydd yn gofyn i chi orwedd ar wely'r sganiwr ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn gorwedd yn y safle cywir. Mae'n bosibl y bydd rhaid i ni osod offer ysgafn dros y man yr ydym yn ei sganio er mwyn cael delweddau mwy manwl.  Bydd rhaid i chi aros yn llonydd iawn yn ystod y sgan er mwyn i'r lluniau fod yn hollol glir.

Os ydych chi'n cael sgan o'ch brest neu eich abdomen, mae'n bosibl y byddwn ni'n gofyn i chi ddal eich gwynt. Byddwn yn rhoi cyfarwyddiadau i chi yn ystod eich apwyntiad. Weithiau, rydym ni'n gofyn i gleifion beidio â bwyta cyn rhai mathau o sganiau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi yn eich llythyr apwyntiad.

Ni ddylai'r sgan fod yn boenus o gwbl. Y rhan anoddaf fydd cadw'n llonydd, ond, fe fydd sŵn curo uchel. Fe fyddwn ni'n rhoi clustffonau a phlygiau clust i chi i leihau'r sŵn. Gallwch hefyd wrando ar gerddoriaeth ar y radio.

Hyd arferol sgan yw 20-60 munud gan ddibynnu ar ba ran o'r corff sy'n cael ei sganio.

Beth fydd yn digwydd ar ôl fy sgan?

Cyn gynted ag y bydd y sgan wedi gorffen, cewch fynd adref neu'n ôl i'r ward os ydych chi'n glaf mewnol.

Gallwch fwyta, yfed ac ailddechrau eich gweithgareddau arferol ar unwaith.

Bydd y canlyniadau'n cael eu hanfon at y meddyg a wnaeth eich cyfeirio am y sgan. Fel arfer, bydd y canlyniadau ar gael ymhen 2-3 wythnos.

Os ydych chi'n glaf mewnol, bydd y meddygon sy'n gofalu amdanoch chi ar y ward yn cael eich canlyniadau.

Mwy o wybodaeth

Mae MRI yn driniaeth ddiogel iawn, ond efallai na fydd cleifion â rheolyddion calon a mewnblaniadau llawfeddygol eraill yn gallu cael sgan MRI. Byddwn yn gofyn i chi gwblhau holiadur diogelwch cyn eich sgan i wneud yn siŵr ei bod hi'n ddiogel i chi ei gael. Os nad ydych chi'n gallu cael sgan MRI, efallai y bydd hi'n bosibl i chi gael sgan CT neu sgan uwchsain. Os nad ydych chi'n siŵr am y mewnblaniad sydd gennych chi, ffoniwch yr adran i ofyn am gyngor.

Weithiau, mae angen i ni roi pigiad sy'n cynnwys lliw i chi yn ystod y sgan. Mae'r pigiad hwn yn cynnwys gadoliniwm ac mae gan rai pobl alergedd iddo. Er nad yw'n digwydd yn aml, mae'n gallu achosi adwaith alergaidd sy'n debyg i glefyd y gwair (trwyn yn rhedeg a llygaid yn cosi).

Os ydych chi'n feichiog, mae'r canllawiau diogelwch cenedlaethol yn argymell na ddylem ni roi sgan MRI i chi oni bai ei fod yn fater o frys clinigol. Bydd y meddyg sy'n eich cyfeirio am y sgan yn penderfynu gyda'r radiograffydd a yw'r sgan yn angenrheidiol. Mae llawer o ferched beichiog wedi cael sgan MRI heb unrhyw broblemau. Ffoniwch yr Adran am ragor o wybodaeth.

Mae'r fideo canlynol yn dangos i chi beth i'w ddisgwyl pan fyddwch chi'n cael sgan MRI.