Neidio i'r prif gynnwy

Meddygaeth Niwclear a Sganio PET/CT

Mae meddygaeth niwclear ddiagnostig yn arbenigedd radiolegol sy'n cael ei defnyddio i wneud diagnosis o glefydau ac anafiadau, ac i helpu clinigwyr i fonitro cynnydd eich triniaeth. Mae'n ddull sensitif iawn o ddelweddu ac mae'n helpu i adnabod abnormaleddau yn gynnar iawn wrth i glefydau ddatblygu.

Mae sawl gwahanol fath o ymchwiliadau mewn meddygaeth niwclear, ond mae pob un yn golygu bod y claf yn cael math o feddyginiaeth a elwir yn feddyginiaeth radiofferyllol. Fel arfer nid oes unrhyw sgil-effeithiau ar ei ôl. Mae'r math o feddyginiaeth radiofferyllol yn cael ei dewis ar gyfer y math penodol o ymchwiliad sy'n cael ei wneud. Mae'n cynnwys ychydig bach o ymbelydredd, sy'n gadael y corff yn weddol fuan ar ôl y prawf. Mae'r ymbelydredd yn caniatáu i'n hoffer delweddu arbenigol ddilyn llwybr y feddyginiaeth yn eich corff. Mae hwn yn brawf eithaf cyffredin erbyn hyn, ac mae wedi bod o gwmpas ers cryn amser.

Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth sganio PET/CT. Mae hwn yn gyfleuster sganio arbenigol sy'n ymweld ag Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae sganiau PET/CT yn arbenigol iawn oherwydd y math o sganiwr a meddygaeth radiofferyllol sy'n cael eu defnyddio. Mae'r math hwn o sgan yn cyd-fynd â sganiau meddygaeth niwclear draddodiadol, a mathau eraill o ddelweddu e.e. MRI a CT.

Pan fyddwch chi'n cael cynnig eich apwyntiad, byddwch hefyd yn cael rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â'r prawf, y pethau y dylech chi eu gwneud a'r pethau na ddylech chi eu gwneud cyn y prawf. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am sut i gysylltu â'r tîm delweddu os hoffech chi drafod y prawf cyn eich apwyntiad.

Bydd Radiograffydd neu Dechnolegydd Meddygaeth Niwclear, sef gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn gwneud yr archwiliad. Byddant yn ceisio gwneud eich ymweliad mor ddymunol â phosibl a byddant yn gallu cynnig cyngor fel bo angen, gan sicrhau bod y prawf o'r safon uchaf. Yna, bydd Radiolegydd Meddygol Ymgynghorol neu Radiograffydd sy'n adrodd yn dehongli eich sgan.

Cysylltu â ni
Gan fod gennym fwy nag un safle sy’n cynnal y profion hyn, dylech edrych ar yr wybodaeth gyswllt sydd yn eich llythyr apwyntiad. Mae Adran Meddygaeth Niwclear yn Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae'r oriau agor yn amrywio ychydig ar draws y safleoedd.

Gwybodaeth Bwysig
Wrth gyrraedd eich apwyntiad, mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni os yw hi'n bosibl eich bod chi'n feichiog, neu os ydych chi'n bwydo ar y fron. Dylech hefyd roi gwybod i ni os ydych chi wedi cael profion tebyg yn ddiweddar, yn enwedig os cawsoch chi'r rhain y tu allan i Gymru.