Neidio i'r prif gynnwy

Labordy Fasgwlaidd

Cynhelir profion heb lawdriniaeth o'r rhydwelïau a'r gwythiennau yn y pen, y gwddf, y breichiau, yr abdomen a'r coesau yn y labordy fasgwlaidd. Mae'r profion yn cael eu cynnal gan wyddonwyr fasgwlaidd neu sonograffwyr fasgwlaidd. Mae'r rhan fwyaf o'r triniaethau yn cynnwys sgan uwchsain, er mae rhai profion yn cynnwys mesur pwysedd gwaed. Gall y profion hyn helpu i wneud diagnosis a thrin llawer o gyflyrau fasgwlaidd, gan gynnwys clefyd fasgwlaidd ymylol, ymlediadau, gwythiennau diffygiol, strôc, ac fe'u defnyddir ar gyfer cynllunio a monitro ffistwla dialysis.