Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Delweddu'r Fron Radioleg

Y profion mwyaf cyffredin ar gyfer cael delweddau o'r fron yw mamogramau, profion uwchsain a MRI y fron. Mae'n bosibl y byddwch chi'n cael un neu fwy o'r profion hyn yn ystod eich ymweliad er mwyn i ni gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl.

Mamogram

 Mamogram yw'r enw ar belydr-X arbenigol o'r fron sy'n dangos manylion bach ym meinwe'r fron. Bydd pob bron yn ei thro, yn cael ei gosod ar y peiriant pelydr-X a'i gwasgu gan blât clir. Mae'n bosibl y bydd y pwysau ar eich bron yn teimlo'n anghyfforddus, ond ni fydd yn para'n hir. Bydd yn cael ei ryddhau ar unwaith ar ôl tynnu'r llun pelydr-X.

Mae angen gwasgu'r fron er mwyn ei chadw'n llonydd ac i gael llun clir gyda chyn lleied o ymbelydredd a phosibl. Fel arfer, byddwn yn cymryd dwy ddelwedd o bob bron ond weithiau mae angen mwy o ddelweddau er mwyn i ni gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom ni.   

Mamograffwyr sy'n gyfrifol am gynnal mamogramau. Maen nhw'n radiograffwyr benywaidd sydd wedi cael eu hyfforddi'n benodol i wneud yr archwiliad hwn.

Uwchsain

Mae'r prawf yn ddi-boen. Bydd gel arbennig yn cael ei daenu dros y fron a/neu'r gesail a bydd dyfais fach sy'n allyrru tonnau sain, yn cael ei symud yn ysgafn dros y mannau priodol. Yna, bydd y tonnau sain yn cael eu trosi'n ddelwedd weledol.

MRI y fron

Mae sganiau MRI yn defnyddio meysydd magnetig cryf a thonnau radio i gynhyrchu delweddau manwl o'r tu mewn i'r corff.

Pan fyddwch chi'n cael MRI y fron, byddwch yn gorwedd ar eich bol mewn tiwb cul. Mae synwyryddion yn casglu gwybodaeth i greu delwedd fanylach o'r meinweoedd y tu mewn i'ch bronnau. Mae'r prawf yn ddi-boen, ond mae'n bosibl y bydd pobl nad ydynt yn hoffi mannau caeedig yn teimlo'n anghyfforddus.

Biopsi Craidd â Nodwydd

Weithiau, bydd angen cael sampl o feinwe’r fron neu'r gesail er mwyn cael rhagor o wybodaeth. Caiff anesthetig lleol ei roi ar y man lle gwneir y biopsi i'w wneud yn ddideimlad. Gwneir y driniaeth gan ddefnyddio'r offer uchod i arwain yr arbenigwr i'r man cywir. Yna, bydd y sampl yn cael ei hanfon i'w dadansoddi. Bydd y canlyniad ar gael ymhen rhai dyddiau a byddwn yn cysylltu â chi.

Byddwch yn gallu mynd adref ar ôl y driniaeth hon. Mae'n bosibl y bydd eich bron wedi'i chleisio ac y bydd yn boenus. Gallwch gymryd tabledi i leddfu poen e.e. parasetamol, ond peidiwch â chymryd aspirin.

Bydd ymarferwyr iechyd a chlinigwyr arbenigol yn cynnal yr holl brofion. Byddant yn ceisio gwneud eich ymweliad mor ddymunol â phosibl. Byddant yn gallu cynnig cyngor yn ôl y gofyn, gan sicrhau bod y prawf o'r safon uchaf.

Rhagor o wybodaeth ac adnoddau