Neidio i'r prif gynnwy

Histopatholeg

Mae'r adran histopatholeg yn gyfrifol am astudio’r meinwe dynol. Mae tîm o Ysgrifenyddion Labordy Meddygol, Cynorthwywyr Labordy Meddygol, Gwyddonwyr Biofeddygol cofrestredig a Phatholegwyr Ymgynghorol profiadol yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn darparu’r gwasanaeth i boblogaeth Gogledd Cymru.

Derbynnir samplau yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ac Ysbyty Maelor Wrecsam, gyda'n labordy diagnostig wedi'i leoli'n ganolog yn Ysbyty Glan Clwyd, ym Modelwyddan.

Beth yw ein gwaith

Mae’r adran yn derbyn ystod o wahanol samplau, o fiopsïau bach i echdoriadau organau mwy, er mwyn archwilio meinweoedd a chelloedd o dan ficrosgop, ac er mwyn helpu clinigwyr i reoli gofal cleifion.

Mae darnau bach o feinwe yn cael eu prosesu gan ddefnyddio cemegau amrywiol i gynhyrchu bloc cwyr paraffin. Yna caiff rhannau tenau eu torri o'r bloc a'u staenio i ddangos manylion niwclear a cytoplasmig y celloedd, sy'n galluogi'r Patholegydd i ddarparu dehongliad clinigol o'r sampl pan edrychir ar y sleid trwy’r microsgop.

Rydym hefyd yn cyflwyno ystod o brofion ychwanegol sydd, nid yn unig yn helpu i adnabod diagnosis, ond hefyd yn darparu gwybodaeth bwysig am yr opsiynau triniaeth gorau i gleifion unigol.

Pa mor hir mae'n ei gymryd?

Mae'r broses hon yn cymryd llawer mwy o amser na phrawf gwaed arferol, rhwng 5 a 10 diwrnod fel arfer yn dibynnu ar y sbesimen unigol. Efallai y bydd angen profion ychwanegol ar achosion mwy cymhleth neu anghyffredin, ac efallai y bydd angen barn arbenigol mewn ysbyty arall mewn rhai achosion, felly gall gymryd sawl wythnos i baratoi’r adroddiad terfynol.

Unrhyw gwestiynau?

Dylai unrhyw gwestiynau am eich profion histopatholeg gael eu cyfeirio at eich meddyg teulu neu eich clinigwr.