Neidio i'r prif gynnwy

Llyfrgelloedd BIPBC - Datganiad GDPR

 
Datganiad Diogelu Data:

Mae’r wybodaeth a roddwch yn y ffurflen werthuso hon yn cael ei derbyn yn unol ag amodau Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) a bydd yn cael ei phrosesu gan Lyfrgelloedd BIPBC at ddiben ymdrin â’ch ceisiadau a gwella ein gwasanaethau llyfrgell. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a sicrhau diogelwch eich data personol.

 

Casglu Gwybodaeth:

Byddwn yn casglu data personol, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, ac unrhyw fanylion eraill a roddwch yn y ffurflen hon. Mae’r wybodaeth hon yn wirfoddol, ac mae gennych yr hawl i beidio rhoi unrhyw wybodaeth bersonol nad ydych am ei darparu. Fodd bynnag, efallai y byddwn angen rhai meysydd gwybodaeth er mwyn prosesu eich adborth yn effeithiol.

 

Defnyddio a Storio Data:

Dim ond at ddiben prosesu eich ceisiadau a gwella ein gwasanaethau llyfrgell y bydd y data personol a gesglir yn y ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio. Mae'n bosibl y caiff eich adborth ei ddadansoddi'n fewnol i nodi meysydd i'w gwella. Byddwn yn trin eich data personol yn gyfrinachol ac yn ddiogel, gan gymryd mesurau priodol i atal mynediad, datgelu neu newid heb awdurdod.

 

Mae pob gwasanaeth mewnol i BIPBC yn cadw at bolisi preifatrwydd y sefydliad, sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth GDPR.

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd llawn ar gael yma:  https://bipbc.gig.cymru/use-of-site/polisi-preifatrwydd/

 

Cadw Data:

Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo angen i gyflawni’r diben y’i casglwyd ar ei gyfer neu fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd eich data personol yn cael ei waredu'n ddiogel.


Mae holl wasanaethau mewnol BIPBC yn cadw at y Weithdrefn Rheoli Cofnodion Corfforaethol.  Mae’r weithdrefn lawn ar gael ar fewnrwyd y Bwrdd Iechyd.

 

Rhannu Data:

Ni fyddwn yn rhannu eich data personol â thrydydd partïon heb eich caniatâd, oni bai bod hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol. Fodd bynnag, nodwch y gellir defnyddio data cyfanredol a dienw at ddibenion ystadegol neu ymchwil.

 

Hawliau Gwrthrych y Data:

Fel unigolyn sydd a’i ddata personol yn cael ei gasglu ar y ffurflen hon, mae gennych hawliau penodol o dan GDPR y DU. Mae’r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i gyrchu, cywiro, a dileu eich data personol, yn ogystal â’r hawl i gyfyngu neu wrthwynebu ei brosesu. Os ydych yn dymuno defnyddio’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â'ch Llyfrgell BIPBC leol gan ddefnyddio'r wybodaeth gyswllt a ddarperir isod.

 

Gwybodaeth Cyswllt:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am brosesu eich data personol, cysylltwch â'ch Llyfrgell BIPBC leol.