Neidio i'r prif gynnwy

Aelodaeth o'r Llyfrgell

Gall holl weithwyr Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr a phob gweithiwr iechyd proffesiynol sydd wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys fferyllwyr cymunedol, Meddygon Teulu a nyrsys practis a myfyrwyr gofal iechyd, meddygol/deintyddol sydd ar leoliad, ymaelodi â’r llyfrgell.

 

Os ydych chi'n ansicr a ydych chi'n gymwys i ymuno, cysylltwch â'ch llyfrgell iechyd leol am fanylion llawn.

 

Er mwyn cofrestru bydd gofyn ichi lenwi ffurflen aelodaeth, y gellir gofyn amdani / ei chael o unrhyw un o lyfrgelloedd y Bwrdd Iechyd. Mae angen llofnod gwreiddiol arnom ni ac nid llofnod electronig. Yn ddelfrydol, cyflwynwch y ffurflen yng nghownter eich llyfrgell iechyd agosaf fel y gallwn roi cerdyn ichi ar unwaith. Fel arall, gallwn anfon cardiau allan atoch.

 

Fel aelod, rydych chi'n gyfrifol am yr holl eitemau a fenthycir ar eich cerdyn cyd-aelodaeth. Gellir benthyca uchafswm o 10 eitem o Lyfrgelloedd BIPBC, ar unrhyw un adeg.