Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Pobl Ifanc a Cherdyn-C

Mae’r cynllun Cerdyn-C yn rhoi condomau am ddim i bobl ifanc 13 i 25 oed yng Ngogledd Cymru.

Mae’n wasanaeth cyfrinachol sydd hefyd yn cynnig gwybodaeth a chyngor wyneb yn wyneb ynghylch iechyd rhywiol a pherthnasau gan aelod hyfforddedig o staff.

Mae condomau yn helpu i osgoi beichiogrwydd sydd heb ei gynllunio yn ogystal â heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Pwy sy’n gallu cael Cerdyn C?

Mae pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yn gymwys ar gyfer cynllun Cerdyn C.

Nid oes yn rhaid i chi fod yn actif yn rhywiol (cael rhyw) i gofrestru am Gerdyn-C ac i gael mynediad at gondomau am ddim.

Os ydych chi’n ystyried cael rhyw neu os ydych chi’n actif yn rhywiol, gall condomau helpu i wneud rhyw yn fwy diogel. Maent yn helpu i osgoi beichiogrwydd sydd heb ei gynllunio yn ogystal â heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Ble ydw i’n gallu cael Cerdyn-C?

Mae’r Cynllun Cerdyn C yn gweithredu ar draws Gogledd Cymru. Efallai bod canolfan o fewn eich ysgol, coleg, canolfan ieuenctid neu sefydliad arall. Dewch o hyd i’ch Canolfan Cerdyn C agosaf ar wefan Canolfannau Cerdyn C.

Sut mae cofrestru ar gyfer Cerdyn-C?

  • Dewch o hyd i’ch Canolfan Cerdyn C agosaf ar wefan Canolfannau Cerdyn C.
  • Gofyn i’ch canolfan am apwyntiad cofrestru Cerdyn-C.

Bydd aelod o staff hyfforddedig yn eich canolfan Cerdyn-C megis eich nyrs ysgol neu weithiwr ieuenctid yn trefnu cyfarfod un i un gyda chi er mwyn eich cofrestru chi ar gyfer eich Cerdyn-C.

Bydd hyn yn cynnwys ateb ychydig o gwestiynau er mwyn eich cofrestru chi ar y system Cerdyn-C. Bydd yr holl wybodaeth a fyddwch chi’n ei rhoi yn cael ei chadw’n gyfrinachol (preifat). Mae hyn yn golygu na fyddwn ni’n dweud wrth eich rhieni neu warcheidwaid, eich meddyg, eich ysgol nac unrhyw un arall eich bod chi’n defnyddio Cerdyn-C, oni bai ein bod yn meddwl eich bod chi neu rywun arall yn cael ei niweidio neu mewn perygl o gael ei niweidio (diogelu).

Byddwch chi’n cael gwybodaeth am y condomau cywir i’w defnyddio, dulliau atal cenhedlu a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs), beth i’w wneud os yw condom yn torri, a sut i gael mynediad at gymorth a gwasanaethau pellach os oes angen. Dylai gymryd tua 15-20 i gofrestru.

Pan fyddwch chi wedi cofrestru ar gyfer Cerdyn-C, mae’r hawl gennych chi i gael mynediad at gondomau, iraid a chyngor gan y Cynllun Cerdyn-C.

Dim ond un waith sy’n rhaid i chi gofrestru ac yna gallwch chi ddefnyddio eich Cerdyn-C mewn unrhyw ganolfan Cerdyn-C.

Beth os yw condom yn torri?

Mae condomau yn cynnig amddiffyniad da rhag beichiogrwydd sydd heb ei gynllunio a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (98% gyda defnydd perffaith). Os yw condom yn torri, nid oes angen i chi deimlo cywilydd. Gall staff Cerdyn-C eich cynghori a’ch cefnogi fel eich bod yn cael eich hysbysu’n llawn o’ch dewisiadau. Gallwch chi hefyd edrych ar y dolenni defnyddiol eraill isod fel canllawiau:

Dolenni defnyddiol eraill: