Mae’r Timau Iechyd Meddwl Cymuned (C.M.H.T.s) yn cael eu cynnal ar y cyd â chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gall y Tîm Iechyd Meddwl Cymuned gynnig ystod o wasanaethau o dan un to. Mae aelodau'r tîm yn cynnwys:
Er bod gan y gweithwyr proffesiynol eu sgiliau a diddordebau ei hunain, maent i gyd yn cydweithio er mwyn darparu’r cymysgedd gofal gorau i chi. Oherwydd bod amser ac adnoddau'n gyfyngedig, gall y timau ond delio â’r bobl sydd â’r angen mwyaf.
Os ydych wedi cael eich cyfeirio at y tîm gan eich meddyg, bydd Cydlynydd Gofal yn cael ei neilltuo i chi. Dylai'r ddau ohonoch eistedd i lawr a chytuno ar y driniaeth gorau. Bydd y cytundeb hwn yn cael ei ysgrifennu ac fe'i elwir yn, eich Cynllun Gofal o dan y Dull Cynllun Gofal.
Edrychwch ar y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth am y Timau Iechyd Meddwl Cymuned yn eich ardal leol: