Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Gofal Cychwynnol

Mae Gwasanaeth Iechyd Meddwl Gofal Cychwynnol yn dîm sy'n darparu gwasanaethau triniaeth a gofal i oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl cyffredin. Gallwch gysylltu â'r tîm eich hunain neu gofynnwch i'ch Meddyg Teulu eich cyfeirio. Yna, bydd apwyntiad yn cael ei drefnu i chi drafod eich anghenion. Yn dilyn hyn,

  • Efallai y byddwch yn teimlo nad oes angen cymryd camau pellach
  • Efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio at asiantaethau arbenigol a grwpiau cymuned berthnasol.
  • Efallai y byddwch yn cael cynnig sesiynau unigol gydag aelod o staff neu'n cael cynnig lle gyda grŵp o bobl sydd â phroblemau tebyg megis iselder, pryder neu straen

Am fwy o wybodaeth am Wasanaeth Iechyd Meddwl Gofal Cychwynnol siaradwch â staff yn eich meddygfa leol.