Neidio i'r prif gynnwy

Colposgopi

Colposgopi yw archwiliad o’r serfics (ceg y groth) yn defnyddio colposgop. Mae’n edrych fel ysbienddrych ar stand. Nid yw’n mynd i mewn i chi, ond mae’n galluogi’r meddyg neu nyrs i weld y serfics yn well. Bydd yr archwiliad yn digwydd yn y clinig colposgopi yn eich ysbyty lleol.

Mae’n ddiogel cynnal colposgopi yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, os bydd arnoch angen triniaeth, bydd yn cael ei ohirio fel arfer hyd 12 wythnos ar ôl diwedd eich beichiogrwydd.

Gellir cynnal colposgopi os bydd gennych goil (IUD). Mae risg bychan y bydd angen tynnu’r coil yn ystod eich apwyntiad. Dylech beidio â chael rhyw, neu ddefnyddio dull atal cenhedlu arall (e.e. condom) am o leiaf saith diwrnod cyn eich apwyntiad.

Byddwch yn cael eich cyfeirio at y clinig colosgopi os bydd canlyniadau eich prawf ceg o groth yn abnormal neu annigonol.

Mae colosgopi yn rhan o raglen Sgrinio Serfigol Cymru y GIG sy’n helpu i leihau’r nifer o ferched sy’n datblygu canser serfigol.

Trefnir apwyntiad i chi un ai drwy Sgrinio Serfigol Cymru neu eich Meddyg Teulu. Mae’n bosibl y cewch gynnig triniaeth yn eich apwyntiad cyntaf os yw’n addas.

Mae’n bosibl y byddwch yn dymuno mynd â pherthynas, partner neu ffrind gyda chi i’r apwyntiad.

Bydd taflen sy’n egluro’r driniaeth yn cael ei hanfon gyda’r llythyr apwyntiad.