Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'r gwasanaeth

Beth mae'r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol yn ei gynnig? 

Mae'r gwasanaeth yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, a rhywfaint o ymyriadau cyfyngedig ar gyfer plant a phobl ifanc ar ôl iddynt gael diagnosis. Prif swyddogaeth y gwasanaeth yw cynnig asesiad niwroddatblygiadol a phroffil anghenion ar gyfer plant a phobl ifanc o'r oedran cyn-ysgol hyd at 18 mlwydd oed (efallai na ellir gwneud asesiad llawn yn achos rhai plant nes byddant yn 5 oed neu'n hŷn). Cysylltwch â'ch gwasanaeth lleol i ofyn am wybodaeth am ein timau blynyddoedd cynnar a chyn-ysgol, sy'n asesu plant sy'n iawn na 5 mlwydd oed.

Mae'n bwysig iawn nodi na wnaiff cael asesiad olygu y caiff eich plentyn ddiagnosis bob tro, a dylid nodi nad diagnosis yw'r unig ddull o sicrhau cymorth.  Os oes gan eich plentyn anghenion, efallai fod gan yr ysgol a'r awdurdod lleol ddyletswydd i ddiwallu'r anghenion er nad oes diagnosis.

Rhagor o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin.

Pwy yw aelodau ein tîm?

Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys nifer o weithwyr proffesiynol sydd â sgiliau a phrofiad gwahanol i sicrhau y gallwn ni gynnig gwasanaeth sy'n cyflawni'r safonau uchaf un.

Mae'r rolau hyn yn cynnwys:

  • Pediatregwyr Cymunedol
  • Seicolegwyr Clinigol
  • Seicolegwyr Clinigol Cynorthwyol
  • Cynorthwywyr Gofal Perthynol i Iechyd
  • Therapyddion Iaith a Lleferydd 
  • Therapyddion Galwedigaethol
  • Nyrsys Arbenigol
  • Nyrsys Meithrin Arbenigol
  • Gweinyddwyr
  • Arweinwyr Timau
  • Rheolwyr Gwasanaethau  

Bydd y gweithwyr proffesiynol hyn yn cydweithio ag ysgolion, lleoliadau cyn-ysgol, ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgolion, seicolegwyr addysg, gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill i gasglu cymaint o wybodaeth ag y gallant am eich plentyn. Byddant yn gwneud hyn er mwyn gallu cynnal asesiad llawn o anghenion eich plentyn a nodi a oes ganddynt gyflwr niwroddatblygiadol y gellir ei ddiagnosio.

Os bydd anghenion eich plentyn yn gymhleth a bydd yn ofynnol i ni ystyried ffactorau iechyd emosiynol a chorfforol eraill, byddwn yn cydweithio â gwasanaethau eraill, gan gynnwys y Pediatregwyr Cymunedol lleol, CAMHS a'r Gwasanaeth Anableddau Dysgu. Byddwn yn cynnal cyfarfodydd amlddisgyblaethol i drafod eich plentyn cyn i ni wneud unrhyw benderfyniadau.

Mae'r Gwasanaeth Niwroddatblygiad yn wasanaeth sydd ar wahân i CAMHS a'r Gwasanaeth Anableddau Dysgu. Bydd y gwasanaethau hyn yn cydweithio'n agos iawn, oherwydd, yn aml iawn, gall fod yn ofynnol i blant a phobl ifanc gael cymorth gan fwy nag un o'r gwasanaethau hyn. Mae'n bwysig i deuluoedd wybod bod gan bob gwasanaeth broses gyfeirio wahanol ac mae eu manylion cysylltu yn wahanol, ac nid ydynt wedi'u lleoli yn yr un mannau ym mhob achos. Trowch at dudalennau CAMHS a'r Gwasanaeth Anableddau Dysgu i gael rhagor o wybodaeth.

Mae cydweithio i gefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn bwysig. Mae gwasanaethau iechyd yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol i roi gwybod iddynt os oes gan blant ifanc iawn anghenion dysgu ychwanegol. Darllenwch fwy amdan Anghenion Dysgu Ychwanegol yma: