Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn brysur dros y blynyddoedd diwethaf yn rhoi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (y Ddeddf ADY) ar waith.

Daeth y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i rym ym mis Medi 2021 a bydd yn parhau i gael ei chyflwyno'n raddol tan fis Awst 2025. Mae'n disodli'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) flaenorol. Yn ogystal â'r newid enw, mae cyfrifoldebau tuag at blant a phobl ifanc (0 – 25 oed) ag ADY wedi newid hefyd.

Bydd gan ddysgwyr ag unrhyw lefel o Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd angen Darpariaeth Dysgu Ychwanegol (ALP), hawl i Gynllun Datblygu Unigol yn amlinellu eu hanghenion cymorth.  Mae'r system ADY newydd yn amddiffyn hawliau pob plentyn, waeth beth fo graddau eu hanghenion dysgu ychwanegol.  Mae dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn greiddiol, gyda phlant, pobl ifanc a’u rhieni yn cael eu cynnwys cymaint â phosibl yn y broses a’r penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Mae cydweithio i gefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn bwysig. Mae gwasanaethau iechyd yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol i roi gwybod iddynt os oes gan blant ifanc iawn anghenion dysgu ychwanegol.  Gall Awdurdodau Lleol, Ysgolion neu Sefydliadau Addysg Bellach ofyn i Iechyd ddarparu gwybodaeth i’w helpu i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf ADY.  Efallai y bydd gwasanaethau iechyd hefyd yn ymwneud â darparu Darpariaeth Dysgu Ychwanegol (ALP GIG).

Bydd gan bob ysgol bwynt cyswllt i helpu rhieni ag ymholiadau am anghenion dysgu ychwanegol.  Fel arfer, Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) neu Bennaeth yw hwn.

Mae gan bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru Swyddog Arweiniol Clinigol Addysg Dynodedig (DECLO) i gefnogi'r Gwasanaethau Iechyd i gydgysylltu a chyflwyno'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgol.  Liz McKinney yw DECLO Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

Mae mwy o wybodaeth ddefnyddiol ar gael drwy glicio ar y dolenni isod:

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (y Ddeddf ADY).

canllaw-hawdd-ei-ddarllen-i-blant-rhieni-a-theuluoedd

https://www.snapcymru.org/?lang=cy