Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect 100 o Straeon

Helpwch ni i ddysgu mwy am y newidiadau sy’n digwydd pan mae pobl ifanc yn newid i wasanaethau oedolion.

Gelwir hyn hefyd yn Drawsnewid.

Rydych chi’n cael eich gwahodd i gymryd rhan yn y Prosiect 100 o Straeon.

Cyn eich bod yn cytuno i hyn, mae’n bwysig eich bod yn deall pwrpas a natur y Prosiect yn ogystal â’r hyn y byddwch chi’n cymryd rhan ynddo, os fyddwch chi’n cytuno.

Darllenwch y daflen hon yn ofalus, ac mae croeso i chi ofyn am ragor o wybodaeth neu drafod unrhyw beth nad ydych chi’n ei ddeall. Mae manylion cyswllt ar gael ar ddiwedd y daflen hon.

Pwrpas y Prosiect

Fel Bwrdd Iechyd, rydym ni eisiau sicrhau ein bod yn datblygu’r cymorth cywir ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd.

Er mwyn gwneud hyn, rydym ni eisiau dysgu a deall yr hyn y mae pobl yn ei feddwl er mwyn creu syniadau ar sut i newid ein gwasanaethau. Mae’r bobl hyn yn cynnwys:

  • Pobl ifanc
  • Rhieni
  • Gofalwyr
  • Gwarcheidwaid
  • Staff sy’n gweithio gyda phobl ifanc

er mwyn creu syniadau ar sut I newid ein gwasanaethau.

Ym mis Chwefror 2022, canfu adroddiad gan Lywodraeth Cymru fod cefnogi pobl ifanc i symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion yn bwysig er mwyn gwella.

Canfu adroddiad arall fod pobl ifanc yn teimlo bod anawsterau yn bodoli wrth gael eu cyfeirio at wasanaethau oedolion a bod diffyg cymorth ar eu cyfer wrth iddynt aros gan wneud iddynt deimlo fel bod ganddynt ychydig neu dim rheolaeth dros y broses.

Bydd y Prosiect 100 o Straeon yn cefnogi unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan i ddatblygu eu stori eu hunain.

Bydd y prosiect yn cynnwys hyfforddiant er mwyn addysgu llawer o sgiliau newydd i chi.

Rydym ni’n galw hyn yn “Naratif Cyhoeddus neu Stori Gyhoeddus”

Mae Stori Gyhoeddus yn ddull o greu stori drwy gofnodi’r wybodaeth a roddir mewn modd sydd mwyaf cyfforddus i chi. Gall hyn fod drwy

  • Ffilm
  • Recordiad Sain
  • Ffurfiau ysgrifenedig
  • Barddoniaeth
  • Blogio
  • neu ddulliau artistig eraill.

Yna, bydd y straeon a wneir drwy’r prosiect yn ymddwyn fel offeryn i’r rhai sy’n cymryd rhan i barhau i weithio gyda’i gilydd.

Bydd y straeon hefyd yn offeryn i ddeall beth yw’r heriau ar hyn o bryd a sut i adeiladu ar yr elfennau cadarnhaol er mwyn newid gwasanaethau yn y dyfodol.

Bydd recordio’r syniadau sy’n deillio o’r sesiynau hyn yn caniatáu i ni weithio gyda’n gilydd i greu cynllun, a fyddwn ni’n eu rhannu â’r gwasanaethau.

Bydd unrhyw un sy’n cymryd rhan yn cael y cyfle i barhau i weithio ar unrhyw brosiectau eraill sy’n deillio o’r gwaith hwn gyda’r bwrdd iechyd a phartneriaid.