Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Lliniarol

Ceir gwasanaethau gofal lliniarol ar draws y Bwrdd Iechyd, wedi’u cynllunio i ddarparu gofal lliniarol arbenigol yn yr ysbyty a’r gymuned.

Mae gwasanaethau wedi’u teilwra at anghenion y claf beth bynnag ydyw ei ddiagnosis cychwynnol. Mae gofal nyrsio lliniarol saith diwrnod yr wythnos arbenigol ar gael a chyngor meddygol arbenigol 24awr ar gael i staff clinigol.

Mae’r gwasanaeth gofal lliniarol wedi’i gyfuno â’r sector gwirfoddol ac yn sgil hynny caiff ei ddarparu mewn cydweithrediad agos a chytûn gyda’r hosbisau yng Ngogledd Cymru yn ogystal â sefydliadau tebyg fel Hosbis yn y Cartref a Marie Curie.