Neidio i'r prif gynnwy

Radiotherapi

Y Gwasanaeth sydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r radiotherapi pelydr allanol gan ddefnyddio’r cyflymydd llinellol sydd yno. Mae’r peiriannau sydd ar gael yn cynnwys offer a uwchraddiwyd yn ddiweddar fel y gellir defnyddio technegau radiotherapi newydd yn cynnwys IMRT.

Ms Carmel Barnett sy’n rheoli’r gwasanaeth.

Mae Brachiytherapi yn parhau i gael ei ddarparu yng Ngogledd Orllewin Lloegr.

Gall radiotherapi wella canser ac mae'n rhan o 40% o driniaethau canser radical pan fydd yn cael ei ddefnyddio ar ei ben ei hun neu ei gyfuno â thriniaethau eraill. Mae hyn yn cymharu â llawdriniaeth (50%) a chemotherapi (11%).

Agorodd Ganolfan Trin Canser Gogledd Cymru (NWCTC) ym mis Mehefin 2000. Y Ganolfan yw unig ddarparwr radiotherapi ar gyfer y 700,000 o bobl sy'n byw yng Ngogledd Cymru.

Mae'r gwasanaeth radiotherapi yn cael ei ddarparu gan 3 pheiriant triniaeth megafoltedd (cyflymyddion llinellol (linear accelerators) neu linacs), cafodd 1 o'r rhain ei osod ym 1994 a chafodd 2 linac newydd eu gosod yn 2011. Bydd peiriant radiotherapi egni is yn cael ei ddefnyddio i drin tiwmorau croen arwynebol.

Bydd triniaethau radiotherapi yn cael eu cynllunio gan ddefnyddio'r efelychwr neu sganiwr CT a bydd delweddau claf yn cael eu trosglwyddo i system gynllunio triniaeth 3D. Yma, bydd yr Oncolegwyr Clinigol yn amlinellu maint y tiwmor a strwythurau normal cyfagos. Maent yn gweithio'n agos â thîm o radiograffyddion therapi a ffisegwyr radiotherapi i benderfynu ar y trefniant pelydrau gorau i drin y tiwmor malaen wrth arbed y strwythurau normal, sydd gerllaw yn aml.

Bydd y Ganolfan yn trin oddeutu 1800 o gleifion newydd bob blwyddyn a gall nifer y triniaethau mewn cwrs radiotherapi amrywio o 1  hyd at 37. Bydd y rhan fwyaf o gleifion yn mynychu bob dydd i gael triniaeth, yn aml yn teithio mwy na 50 milltir bob ffordd. Efallai y bydd cludiant ysbyty yn cael ei ddarparu i'r rheiny heb eu cludiant eu hunain. Mae nifer fach o ystafelloedd hostel (Gwawr) ar gael ar gyfer cleifion sy'n gofalu am eu hunain ac mae nifer fach o welyau i gleifion mewnol radiotherapi ar ward Enfys i'r rheiny sy'n rhy wael i deithio.

Yn gynyddol, mae llawer o gleifion yn cael triniaeth â radiotherapi a chemotherapi ar y cyd, yn mynychu'r uned achosion dydd (Heulwen) a'r adran radiotherapi ar yr un dyddiau.

Mae radiotherapi wedi'i dywys gan ddelweddau yn caniatau cynnal delweddu diagnostig o ansawdd yn yr ystafell driniaeth cyn triniaeth, gan sicrhau bod y maint cywir yn cael triniaeth.

Mae NWCTC yn cymryd rhan mewn nifer o dreialon clinigol radiotherapi cenedlaethol ac mae ganddi bortffolio helaeth.

Mae'r linacs diweddaraf yn NWCTC yn gallu cynnig triniaethau modern i gleifion Gogledd Cymru. NWCTC oedd y ganolfan gyntaf yng Nghymru i drin cleifion â radiotherapi a gyweirir yn ôl dwysedd RapidArc. Yma, bydd radiotherapi yn cael ei ddarparu gan nenbont y linac yn symud o amgylch y claf mewn 1 neu 2 grymlin yn para oddeutu munud yr un. Mae siâp y maes a dwysedd y pelydryn yn newid wrth symud, gan ddarparu dos i wahanol rannau o'r lle sy'n cael triniaeth ac osgoi strwythurau critigol gerllaw.