Neidio i'r prif gynnwy

Oncoleg

Mae gwasanaethau oncoleg ar bob un o dri phrif safle’r Bwrdd Iechyd, gyda chlinigau Cleifion Allanol ac unedau cemotherapi achosion dydd ar gael drwy’r wythnos waith.

Gellir derbyn cleifion am ofal cynhaliol yn dilyn triniaeth oncoleg ar bob un o’r tri safle ac mae cyngor tu allan i oriau ar gael o Ward Alaw ym Mangor a Ward Enfys yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae gwelyau cleifion mewnol ar gael yn y wardiau hyn.   

Mae’r gwasanaeth yn cynnal cysylltiadau clinigol agos gyda gwasanaethau  oncoleg yn Lerpwl a Manceinion gan gydweithio â nhw i ddarparu gwasanaethau ar gyfer canserau prinnach.