Mae’r CPG yn gyfrifol am yr holl wasanaethau haematoleg clinigol gan gynnwys anhwylderau anfalaen. Ceir gwasanaethau Haematoleg Clinigol ar bob un o’r prif safleoedd ac mae cyfleusterau Cleifion Allanol, Achosion dydd a Chleifion mewnol ar gael ar y tri safle hefyd. Mae’r cyfleusterau cleifion mewnol ym Mangor a Glan Clwyd yn cael eu defnyddio i dderbyn achosion cymhleth fel cleifion mewnol o bob rhan o Ogledd Cymru.
Mae gwasanaeth trawsblannu celloedd bôn gweithredol ar gyfer Gogledd Cymru rhwng Bangor a Glan Clwyd. Bangor yw canolfan haemoffilia ddynodedig y rhanbarth.
Mae’r gwasanaeth yn cael ei arwain gan 9 meddyg ymgynghorol a staff arbenigol cysylltiedig.