Neidio i'r prif gynnwy

Clipiau Fideo C2Hear

Mae C2Hear ar-lein yn gyfres o fideos rhyngweithiol byr am gymhorthion clyw, colli clyw a chyfathrebu. Cafodd C2Hear ei ddatblygu gan Uned Ymchwil Fiofeddygol Clyw Nottingham (NIHR). Mae C2 Hear yn mynd i'r afael â materion seicogymdeithasol yn ymwneud â chymhorthion clyw a chyfathrebu. Buddion C2Hear yw:

  • Gwybodaeth well am gymhorthion clyw a chyfathrebu
  • Sgiliau gwell o ran delio â chymorthion clyw
  • Defnydd gwell o gymhorthion clyw ar gyfer pobl nad ydynt yn gwisgo eu cymhorthion clyw trwy'r amser
  • Gwell hyder a sicrwydd o ran defnyddio cymhorthion clyw a chyfathrebu

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am C2Hear trwy fynd i'w gwefan yma neu drwy fynd i'w sianel YouTube yma.

Mae rhai o'r fideos C2 Hear a allai fod yn arbennig o ddefnyddiol wedi'u dangos isod:

Ymaddasu at wisgo cymhorthion clyw

Beth i'w ddisgwyl wrth wisgo cymhorthion clyw

Tactegau cyfathrebu

Defnyddio'r ffôn a dyfeisiau eraill