Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Oedolion


Mae gwasanaeth Awdioleg Oedolion BIPBC yn darparu Gwasanaethau Awdioleg (profion clyw a rheoli nam ar y clyw) i oedolion sy'n byw yng Ngogledd Cymru.

Os ydych yn claf sydd yn gael problem gyda eich cymorth clyw, gwelwch ein adnoddau hynan cynhorthwy islaw

Sut i drefnu apwyntiad 

Os ydych yn cael anhawster gyda'ch clyw, dylech ofyn am apwyntiad yn y lle cyntaf gyda'ch meddyg teulu er mwyn i'ch clustiau gael eu gwirio, er mwyn penderfynu nad yw'r anawsterau rydych yn eu cael o ganlyniad i gyflwr y byddai modd ei drin yn hawdd fel cwyr gormodol. Ym mhractis y meddyg teulu, gallech gael eich gweld gan awdiolegydd gofal cychwynnol a allai gynnal rhai profion ychwanegol.

Os darganfyddir colled clyw, yna bydd y meddyg teulu/awdiolegydd yn eich cyfeirio at yr adran awdioleg i drafod beth fydd angen.

Llinell amser apwyntiadau

Yn ystod eich apwyntiad awdioleg, byddwch yn cael eich gweld gan Glinigwr Awdioleg. Mae rhai Awdiolegwyr yn derbyn hyfforddiant arbenigol mewn meysydd gwahanol megis cydbwysedd, tinitws a phediatreg. 

Efallai bydd Awdiolegwr dan Hyfforddiant yn bresennol yn ystod eich apwyntiad. Os byddai’n well gennych i’r hyfforddai beidio bod yn bresennol, dywedwch wrth eich Awdiolegydd.

Yn ystod yr apwyntiad asesu, bydd Cynllun Personol yn cael ei ddatblygu sy’n amlinellu eich anghenion a'ch gweithredoedd arfaethedig i’ch helpu i oresgyn unrhyw anghenion sydd gennych. Bydd eich apwyntiad nesaf yn ddibynnol ar eich anghenion unigol. 

Os mai’r penderfyniad oedd cael teclyn cymorth clyw, bydd eich apwyntiad nesaf yn cynnwys gosod teclyn clyw cymorth digidol tu ôl i'r glust. Bydd yr Awdiolegydd yn gosod sain y teclyn cymorth clyw i gyd-fynd â’ch methiant clyw ac yn trafod pa osodiadau yr hoffech eu cael i'r teclyn cymorth clyw.  Byddwch yn cael gweld sut mae’r teclyn cymorth clyw yn gweithio a'ch cynghori ynghylch y ffordd orau o ddefnyddio'r teclyn cymorth.

Byddwn yn cytuno ar apwyntiad dilyn i fyny i wirio sut rydych yn dod ymlaen gyda’r teclyn cymorth clyw. Ar ôl yr apwyntiad dilyn i fyny, bydd angen i chi gysylltu ag Awdioleg pan fo angen.

Yn meddwl am gael cymorth clyw?

Mae'r GIG yn darparu cymhorthion clyw i'w benthyca, a batris yn rhad ac am ddim. Eich teclyn cymorth clyw chi yw hwn am ba gyfnod bynnag bydd ei angen arnoch, ond bydd yn parhau i fod yn eiddo i'r GIG. Caiff y teclyn cymorth clyw ei drwsio neu ei amnewid os bydd yn peidio gweithio. Efallai y caiff tâl ei godi arnoch am declyn cymorth clyw newydd os caiff ei golli neu ei ddifrodi trwy gamddefnyddio. Os byddwch yn colli'r teclyn cymorth clyw, cysylltwch â'r adran er mwyn trafod cael un newydd. 


Casglu atborth cleifion

Dilynnwch y linc islaw i weld canlynion  holiadur bodlonrwydd ein gwasanaeth:

Central area service satisfaction questionnaire summary

East area service satisfaction questionnaire summary

West area service satisfaction questionnaire summary