Neidio i'r prif gynnwy

Hear to Help (Powys)

Sut gallwn ni eich helpu?

Fel elusen genedlaethol nam ar y clyw, rydym yn deall bod ymdopi â cholli clyw yn aml yn gallu creu anawsterau i chi ac i'r rheiny o'ch amgylch. Felly rydym yn cynnal gwasanaeth am ddim a fydd yn rhoi'r hyder i chi wneud y defnydd gorau posibl o'ch cymhorthion clyw ac i reoli eich nam ar y clyw yn effeithiol.

Gallwn eich helpu i sicrhau bod eich cymhorthion clyw yn gweithio hyd eithaf eu gallu. Gallwn:

  • gynnal gwiriadau syml
  • rhoi cyngor ar sut i chwilio
  • trafod offer a
  • newid batris a thiwbiau
  • rhoi cyngor ar gyfathrebu
  • rhoi cyngor ar ymdopi â
  • eich cyfeirio at yr adran awdioleg

Pwy ydym ni?

Mae ein staff a'n gwirfoddolwyr wedi'u hyfforddi'n llawn i helpu i gynnal cymhorthion clyw, yn ogystal â rhoi cyngor a chymorth. Mae llawer o'n gwirfoddolwyr yn gwisgo cymhorthion clyw eu hunain - felly mae gennym brofiad o lygad y ffynnon o'r anawsterau y gallech fod yn eu hwynebu. Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd. Os hoffech helpu eraill i wneud y defnydd gorau posibl o'u cymhorthion clyw, mae croeso i chi gysylltu

Gallwch alw heibio i sesiwn fisol yn y gymuned leol - nid oes angen cadw lle - neu efallai y byddwn yn gallu ymweld â chi gartref.

I weld y lleoliadau ac amseroedd y sesiynau galw heibio, cliciwch yma.

Oes gennych chi ddiddordeb?

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, cysylltwch â:

Rachael Beech
rachael.beech@hearingloss.org.uk
07552 165800
Dydd Llun/ Dydd Mawrth/ Dydd Mercher