Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Awdioleg Meddygon Teulu

Beth yw Gwasanaeth Awdioleg Meddygon Teulu?

Os oes gennych broblem neu bryder iechyd, bydd eich apwyntiad cyntaf i siarad â rhywun yn ei gylch fel arfer yn cael ei gynnal yn eich meddygfa a chaiff ei drefnu fel arfer gyda meddyg teulu neu nyrs y practis. Mewn rhai practisau meddyg teulu, efallai y byddwch yn gallu manteisio ar wasanaethau eraill yn uniongyrchol heb apwyntiad meddyg teulu ymlaen llaw. Mae Awdioleg yn un enghraifft o wasanaeth lle bo mynediad uniongyrchol. Nid yw Awdioleg ar gael i’r holl bractisau meddygon teulu yn y Bwrdd Iechyd ond mae cynllun ar waith i ehangu’r gwasanaeth i gynnwys yr holl bractisau dros y tair blynedd nesaf.

Pa gyflyrau sy'n cael eu gweld?  

Mae gwasanaeth Awdioleg Meddygon Teuluar gyfer pobl sy'n cael anhawster gyda'u clyw neu dinitiws trafferthus (synau yn y clustiau) ond nad oes ganddynt declyn cymorth clyw gan y GIG. Os oes gennych declyn cymorth clyw gan y GIG a'ch bod yn teimlo bod eich clyw wedi newid, neu os ydych yn cael anhawster gyda'ch cymhorthion clyw neu os yw symptomau tinitws yn eich trwblu, cysylltwch â'ch adran Awdioleg leol.  Os ydych wedi symud i'r ardal a'ch bod wedi derbyn teclyn cymorth clyw ar y GIG gan wasanaeth arall, gallwch gysylltu â'r adran Awdioleg leol i gofrestru eich manylion. Nid oes angen i chi gysylltu â'ch gwasanaeth meddyg teulu.  

Gall Gwasanaeth Awdioleg Meddygon Teuluweld cleifion sy'n bum mlwydd oed ac yn hŷn ar yr amod nad oes unrhyw broblemau gydag iechyd y clustiau ar adeg yr apwyntiad fel haint ar y glust. Mae angen asesiad meddygol ar gyfer y rhain a dylai Nyrs y Practis neu'r Meddyg Teulu ddelio â'r achosion hyn. Os yw'r broblem wedi'i hachosi gan gwyr sy'n creu rhwystr yng nghorn y glust, mae opsiynau i drin hyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i reoli cwyr sy'n cronni yn y clustiau. 

Mae Gwasanaeth Awdioleg Meddygon Teulu hefyd yn gallu asesu a thrin cleifion sy'n oedolion sydd â chyflwr cyffredin iawn sy'n effeithio ar y cydbwysedd sy'n arwain at byliau byr o droelli o symud y pen i gyfeiriadau penodol. Os bydd y synhwyriad troelli (sy'n cael ei alw'n bendro) yn parhau'n hirach nag ychydig funudau, efallai y bydd yn fwy priodol i weld eich meddyg teulu'n gyntaf.

Os nad oes gan eich practis meddyg teulu Wasanaeth Awdioleg Gofal Sylfaenol eto, bydd angen i chi drafod unrhyw bryderon ynghylch eich clyw ac ati gyda'ch meddyg teulu yn uniongyrchol. Gall penderfynu p'un a oes angen cyfeirio'n uniongyrchol at Wasanaeth Awdioleg neu Adran Clust, Trwyn a Gwddf (ENT) yn yr ysbyty am asesiad pellach.

Sut i drefnu apwyntiad

Os yw'r gwasanaeth Awdioleg Meddygon Teulu ar gael yn eich practis meddyg teulu, gallwch drefnu apwyntiad yn uniongyrchol gyda thîm y dderbynfa, neu ofyn am un wrth gwblhau cais ar-lein am e-ymgynghoriad/apwyntiad. 

Gallwch ganfod p’un a yw’r gwasanaeth hwn ar gael yn eich meddygfa leol chi:

Pwy fyddaf i'n ei weld?

Byddwch yn cael eich gweld gan Uwch Ymarferydd Awdioleg, a gaiff ei alw'n Awdiolegydd Gofal Sylfaenol, weithiau. Awdiolegwyr profiadol yw'r rhain sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol i asesu a thrin cleifion yn eu meddygfa lle bo'n bosibl.

Beth fyddant yn ei wneud?

Anhawster gyda'r clyw

Os oes gennych broblem gyda'ch clyw, bydd yr Awdiolegydd yn edrych i lawr eich clustiau ac yn cynnal prawf clyw. Os oes gennych nam ar y clyw ac yr hoffech roi cynnig ar rywbeth i helpu (fel teclyn cymorth clyw), byddwch yn cael eich cyfeirio at dîm awdioleg yr ysbyty am asesiad pellach. Os yw eich nam ar y clyw oherwydd rhwystr dros dro fel cwyr yn y glust, neu annwyd sy'n effeithio ar eich clustiau, caiff opsiynau triniaeth priodol eu trafod.

Tinitws Trafferthus

Os oes arnoch angen cymorth gyda'ch tinitws (synau yn eich clustiau), caiff eich clustiau eu harchwilio a chaiff eich clyw ei asesu yn ystod yr apwyntiad. Gall yr Awdiolegydd eich cyfeirio at wybodaeth addas i helpu i reoli eich tinitws. Os oes gennych nam ar y clyw, efallai y bydd teclyn cymorth clyw yn helpu hefyd. Yn achos rhai pobl sydd â thinitws, efallai y caiff cyfeiriad at yr ysbyty ar gyfer asesiad pellach ei drafod yn ystod yr apwyntiad.  Mae hyn fel arfer pan fo'r tinitws wedi bod yn bresennol am gyfnod yn un glust yn unig, neu pan fo arnoch angen ychydig o gymorth ychwanegol i'w reoli.

Pendro Leoliadol

Os oes gennych symptomau bendro leoliadol (synhwyriad troelli byrhoedlog pan fyddwch yn symud eich pen i gyfeiriadau penodol), efallai y bydd yr Awdiolegydd yn gallu trin hyn yn ystod yr apwyntiad yn eich meddygfa. Mae triniaeth yn cynnwys symud eich pen mewn cyfres o gyfeiriadau. Os bydd eich symptomau'n parhau er gwaethaf triniaeth, neu os na allwch gael y driniaeth oherwydd problem gyda'ch gwddf neu'ch cefn, cewch eich cyfeirio at wasanaeth ysbyty (sy'n cael ei alw'n ofal eilaidd) i dderbyn sylw gan dîm Cydbwysedd Awdioleg neu ENT. 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth Gofal Sylfaenol Awdioleg yn eich practis meddyg teulu, holwch wrth y dderbynfa am ragor o fanylion ac i drefnu apwyntiad, os bydd angen.