Neidio i'r prif gynnwy

Sut i Reoli Cwyr sy'n Cronni yn y Clustiau

Beth yw cwyr clustiau?

Caiff cwyr clustiau ei gynhyrchu'n naturiol yng nghorn y glust. Gweithrediad i gadw'r glust yn lân ac yn rhydd o unrhyw germau haint ydyw. Gan fod y glust yn glanhau drosti ei hun, nid yw'n achosi unrhyw broblemau fel arfer oni bai y bydd y cwyr yn cronni i'r fath raddau fel ei fod yn dechrau rhwystro corn y glust.

Pryd fydd yn broblem?

Gall yr arwyddion fod cwyr yn cronni yn y clustiau fod mor syml â'r teimlad bod rhwystr yn eich clust ac na allwch glywed cystal. Weithiau, efallai y byddwch yn profi poen a chosi yn y glust, neu efallai y byddwch yn dechrau sylwi ar dinitws (synau yn eich clust).  Os oes gennych declyn cymorth clyw, efallai y byddwch yn sylwi bod eich teclyn cymorth clyw yn dechrau chwibanu, neu fod cwyr clustiau yn achosi rhwystr yn y mowld neu'r tiwb. Gall hyn effeithio ar lefel y sŵn y byddwch yn ei glywed.

  • Os byddwch yn profi newid sydyn i'ch clyw y credir nad yw o ganlyniad i gwyr yn cronni yn y clustiau, mae'n bwysig cysylltu â'ch meddygfa.
  • Os byddwch yn cael poen a chosi sylweddol yn y glust neu'ch bod yn sylwi ar redlif o'ch clustiau, gallai fod yn arwydd o haint ar y glust felly bydd angen i chi ofyn am gyngor gan eich meddyg teulu.

Beth allwch ei wneud am gwyr sy'n cronni yn y clustiau?

Os nad ydych wedi cael UNRHYW heintiau ar y glust yn ddiweddar (o fewn y chwe wythnos ddiwethaf), tyllau ym mhilen y glust), llawdriniaeth flaenorol ar y glust neu hanes o daflod hollt, gallwch ddefnyddio olew olewydd yn eich clustiau er mwyn helpu i feddalu'r cwyr yn y glust. Os oes gennych hanes o heintiau clust cyson neu ddiweddar, tyllau, taflod hollt neu wedi cael llawdriniaeth ar y glust, cysylltwch â'ch meddygfa am gyngor.

Mae'n bwysig NA FYDDWCH yn defnyddio ffyn gwlân cotwm nag unrhyw ddyfais arall yn eich clust gan fod risg o niwed neu o wthio'r cwyr ymhellach i lawr, sy'n ei gwneud yn fwy anodd ei drin.

Bydd angen i chi brynu olew olewydd (ar gyfer eich clustiau) o'ch fferylllfa leol. Mae ar gael fel arfer fel diferion neu chwistrell. Efallai y bydd yn haws defnyddio chwistrell. Ni chynghorir cynhesu'r olew olewydd a dylai ei ddefnyddio ar dymheredd yr ystafell.

Sut i ddefnyddio olew olewydd yn eich clustiau:
  • Gorweddwch ar eich ochr gyda'r glust berthnasol yn wynebu tuag at i fyny. Tynnwch y glust am yn ôl ac i fyny’n ofalus i agor corn y glust ac i'w sythu. Bydd hyn yn caniatáu i'r diferion fynd yn ddyfnach i'r glust.
  • Dylech adael i dri diferyn olew olewydd dreiddio i'ch clust (neu ei chwistrellu deirgwaith os ydych yn defnyddio cynnyrch olew olewydd). Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael rhywun gyda chi. Yna tylinwch y man o flaen y glust yn ysgafn.
  • Gorweddwch yn llonydd am o leiaf bum munud er mwyn sicrhau bod y diferion olew olewydd wedi treiddio'n briodol.
  • Os oes angen i chi drin y ddwy glust, trowch drosodd ar eich ochr arall ac ailadroddwch y broses. PEIDIWCH Â rhoi gwlân cotwm neu bapur toiled yn eich clustiau gan fod hyn yn gallu amsugno'r olew, gan adael y cwyr yn sych ac yn galed.

Cwyr clust yn cronni yn achos plant

Os oes gennych blentyn sy'n bum mlwydd oed ac yn hŷn lle bo cwyr wedi cronni yn y clustiau, gallwch ei drin fel y'i hamlinellir uchod gan ddefnyddio olew olewydd. Os bydd eich plentyn yn dechrau datblygu poen yn y glust yn ystod triniaeth, dylech roi'r gorau iddi gan geisio cyngor gan eich meddyg teulu. Os yw hyn yn effeithio ar ei glyw ac nad yw hyn wedi gwella trwy ddefnyddio olew olewydd, gallwch drefnu apwyntiad i weld Uwch Ymarferydd Awdioleg yn eich meddygfa lle bo'r gwasanaeth hwn ar gael. Os nad oes gan eich meddygfa wasanaeth Awdioleg Uwch, trafodwch bryderon yngylch clyw eich plentyn gyda'i feddyg teulu, gan y gallai fod angen cyfeirio at wasanaeth arbenigol.

Os yw'ch plentyn o dan bum mlwydd oed, cysylltwch â'ch meddygfa am gyngor. Os oes pryderon ynghylch y clyw, efallai y bydd angen cyfeirio at wasanaeth arbenigol.

Pryd i ofyn am gyngor pellach

Os ydych wedi bod yn defnyddio olew olewydd fel y'i hamlinellir uchod am saith niwrnod ac nad yw'ch symptomau wedi gwella, dylech gysylltu â'ch meddygfa am gyngor. Mewn rhai achosion, efallai y caiff apwyntiad gyda gweithiwr proffesiynol sydd wedi'i hyfforddi i dynnu cwyr o'r glust ei gynnig.  

Gwasanaeth tynnu cwyr clust y GIG

Rydym wrthi'n sefydlu gwasanaeth newydd i dynnu cwyr o'r glust. Caiff cwyr clust ei dynnu gan Awdiolegydd a chaiff y gwasanaeth ei ddatblygu dros y tair blynedd nesaf. Os nad yw'r gwasanaeth ar gael eto yn eich meddygfa, gallant eich cynghori ar yr opsiynau lleol eraill i dynnu cwyr. 

Cysylltwch â’ch meddygfa Meddyg Teulu i drafod darpariaeth tynnu cŵyr.

Os ydych yn byw yn Gogledd Powys, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Powys am cymorth ynglyn a cwyr yn y glust. 

Sut i drefnu apwyntiad

Gallwch drefnu apwyntiad i dynnu cwyr yn uniongyrchol gyda staff derbynfa'r feddygfa os yw'r gwasanaeth ar gael yn eich meddygfa chi.  Os nad yw'r gwasanaeth ar gael eto, bydd staff y dderbynfa'n gallu eich cyfeirio at wasanaethau eraill y GIG neu i drafod opsiynau ymhellach.

Sut i dynnu cwyr o'r glust

Mae tri dull tynnu cwyr o'r glust mewn achosion lle nad yw dulliau hunanreoli wedi bod yn llwyddiannus neu lle na chynghorwyd hynny yn y lle cyntaf oherwydd problemau eraill sy'n gysylltiedig â'r glust.

Tynnu cwyr â llaw

Mae hyn yn cyfeirio at ddefnyddio teclyn bach i dynnu cwyr o'r glust heb yr angen am unrhyw offer arall. Yn ddelfrydol mewn achosion lle bo'r cwyr yn eithaf sych ond heb fod yn galed, a heb fod yn rhy agos at bilen y glust.

Dyfrhau

Mae hyn yn cyfeirio at ddefnyddio dŵr i fflysio cwyr o gorn y glust. Mae'r offer sydd eu hangen i wneud hyn wedi cael eu cynllunio at y diben hwn.  Yn achos pobl lle bo hanes o heintiau ar y glust, twll ym mhilen y glust, taflod hollt neu lawdriniaeth flaenorol ar y glust, ni chynghorir dyfrhau. Dyfrhau i dynnu cwyr yw'r dull cyffredin a ddefnyddir gan nyrsys ardal a rhai nyrsys practisau meddygon teulu.

Microsugno 

Mae hyn yn cyfeirio at ddefnyddio aer i dynnu cwyr o gorn y glust trwy sugno. Mae'r offer sydd eu hangen i wneud hyn wedi cael eu cynllunio at y diben hwn. Caiff blaen plastig ei osod yng nghorn y glust er mwyn ei amddiffyn a chaiff stiliwr sugno ei ddefnyddio i dynnu'r cwyr. Mae'r dull hwn yn ddiogel i gleifion sydd wedi cael tyllau a rhywfaint o lawdriniaeth ar y glust, neu sydd wedi cael heintiau'n ddiweddar. Mae awdiolegwyr sy'n gweithio yn y gwasanaeth tynnu cwyr newydd oll wedi'u hyfforddi mewn microsugno.

Yn achos yr holl weithredoedd, mae'n rhaid i'r cwyr gael ei feddalu cyn bo modd ei dynnu felly cynghorir defnyddio olew olewydd yn rheolaidd ymlaen llaw. 

A yw'n brifo i dynnu cwyr o'r clustiau

Ar yr amod bod y cwyr wedi cael ei feddalu ymlaen llaw, dylai'r weithred fod yn ddi-boen. Os yw'r cwyr yn rhy galed, cewch eich cynghori i barhau i ddefnyddio diferion olew olewydd. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gallu mynd trwy'r weithred hon heb unrhyw broblem o gwbl, tra bydd corn y glust yn sensitif iawn yn achos rhai pobl. Os byddwch yn cael anghysur ar unrhyw adeg a'ch bod yn awyddus i roi terfyn ar y weithred, gallwch roi gwybod i'r unigolyn sy'n ei chwblhau.

Beth ddylwn ei wneud ar ôl mynd trwy weithred tynnu cwyr?

Os yw'ch clyw wedi gwella, nid oes angen unrhyw gamau pellach a gallwch barhau i ddefnyddio diferion neu chwistrell olew olewydd o leiaf unwaith y mis i helpu gyda phroblemau yn y dyfodol yn ymwneud â chwyr yn cronni.

Os nad yw'ch clyw wedi gwella, dylech gysylltu â'ch meddygfa am gyngor.  

Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol