Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith Ymchwil Awdioleg

Ymchwil a Datblygiad yng Ngwasanaeth Awdioleg BIPBC, Gogledd Cymru

Mae'r Gwasanaeth Awdioleg yn BIPBC yn adnabyddus ar draws y proffesiwn Awdioleg yn y DU am ein harloesedd a datblygiad gwasanaeth.   Mae unigolion sy'n gweithio i'r gwasanaeth wedi bod yn gysylltiedig â sawl datblygiad yn y proffesiwn Awdioleg dros y degawdau diwethaf, ac yn wir wedi arwain ar ddatblygiadau allweddol.  Rydym hefyd yn rhannu darganfyddiadau'n rheolaidd gyda'r gymuned awdioleg yn genedlaethol a rhyngwladol, a nodir esiamplau o gyhoeddiadau yma.

Mae ein holl ddatblygiadau yn seiliedig ar angen clinigol, h.y. anghenion pobl sydd ag anhwylderau clyw, tinitws a chydbwysedd ar draws gogledd Cymru a thu hwnt.  Yn yr un modd, mae ein diddordebau ymchwil yn astudiaethau y gellir eu defnyddio mewn arferion clinigol yn bennaf, ond yn cefnogi ac yn gweithio gyda chydweithwyr academaidd gyda'r gwyddorau trosol neu danategol. 

Mae ambell esiampl o brosiectau wedi eu hamlinellu isod, o brosiectau hanesyddol i rai sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd.   Yn y blynyddoedd mwy diweddar, mae'r timau yn y gwasanaeth wedi datblygu sgôr canlyniad newydd ac wedi gwerthuso a rhoi nifer o fodelau gwasanaeth arloesol ar waith.   Rydym yn rhannu'r datblygiadau hyn yn rheolaidd gyda'r gymuned Awdioleg, megis Cymdeithas Awdioleg Prydain ac Academi Awdioleg Prydain, ac ar adnoddau ar-lein megis Sound Practice a'r BSA Ar-lein. 

Os oes gennych ddiddordeb gweithio gyda Gwasanaeth Awdioleg Gogledd Cymru ar gyfleoedd ymchwil neu ddatblygiad, cysylltwch â ni dros gyfeiriadau e-bost yr adran.  Rydym yn croesawu pob ffurf o gydweithredu ac yn awyddus i drafod syniadau newydd bob amser.

 

Esiamplau o brosiectau'r gorffennol a rhai presennol:

Cyhoeddi Protocolau ar gyfer Profion Plant

Roedd Gwyddonwyr Clinigol Awdioleg sy'n gweithio gyda phlant yng ngogledd Cymru yn allweddol wrth werthuso a datblygu rhai o'r protocolau cynnar ar gyfer asesiad o glyw plant. 

Mae ymchwil wedi parhau drwy brosiectau dan law myfyrwyr sy'n astudio ar gyfer eu Rhaglen Hyfforddiant Gwyddonwyr.

 

Datblygiad mewn Adsefydlu Oedolion

Mae clinigwyr wedi bod yn gysylltiedig â datblygiadau mewn gwerthuso a thechnoleg cymhorthion clyw, mewn gwasanaethau moderneiddio cymhorthion clyw yng Nghymru ac mewn prosiectau ymchwil ar y cyd.  Mae'n hanfodol felly bod ansawdd technoleg yn un rhan o'r gwasanaeth adsefydlu cyfannol o ansawdd; cafodd pwysigrwydd ansawdd gwasanaeth ei hyrwyddo ac mae'r gwasanaeth wedi bod â rhan allweddol mewn datblygiad safonau a chanllawiau ansawdd. 

Mae hyn yn parhau heddiw, gydag ymchwil parhaus i raglennu cymhorthion clyw o bell.  Mae'r gwasanaeth wedi derbyn cyllideb ymchwil genedlaethol i astudio defnydd cymhorthion clyw i'r rhai gyda tinitws a cholled clyw cymedrol.

 

Gwaith Aml-broffesiynol

Nid yw Awdioleg yn ddisgyblaeth sy'n bodoli ar wahân.  Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr ENT, ffisiotherapi, gwasanaethau cof a llawer mwy, gan gynnwys cynnig mewnblaniadau cochlear a chymhorthion clyw a angorir mewn asgwrn.  Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda sefydliadau sector gwirfoddol a phencampwyr colli clyw/byddar yng Nghymru a'r DU. Mae'r perthnasau hyn wedi cael eu hymestyn i weithio ar Ymchwil a Datblygiad i wella'r sail dystiolaeth a'r gwasanaethau a gynigir.

 

Sgôr Canlyniad addas ar gyfer Arferion Clinigol

Datblygwyd y Sgôr Canlyniad Cynllun Rheoli Unigol (IMP-OS) a'i dilysu gan ein Tîm Adsefydlu a Chydbwysedd Oedolion, ac mae'r sgôr ar gael i'w defnyddio bellach.  Mae fframwaith yn cael ei chreu ar gyfer gwasanaethau adsefydlu oedolion awdioleg, gan alluogi i'r cyfarpar gael ei defnyddio i hyrwyddo adsefydlu'n canolbwyntio ar y claf, hefyd i gasglu canlyniadau yn canolbwyntio ar gleifion ar gyfer gwerthuso gwasanaeth. 

 

Modelau Gwasanaeth Arloesol

Mewn ymateb i anghenion cleifion, pwysedd gwasanaeth a blaenoriaethau cenedlaethol, mae'r Gwasanaeth Awdioleg wedi gwthio ymlaen gydag arloesedd a gwelliannau.  Cafodd hyn ei ganmol yn genedlaethol yn 2018 pan enillodd y tîm Awdioleg Gofal Cychwynnol Wobr GIG Cymru am Ddatblygu Gweithlu Hyblyg a Chynaliadwy.

 

Dementia a cholli clyw

Un diddordeb penodol y gwasanaeth yw bodloni anghenion oedolion sy'n byw gyda dementia.  Yn 2018, derbyniwyd gwobr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol Amser Ymchwil Clinigol Cymru gan Sarah Bent, i ymchwilio i brofiadau'r rhai sy'n byw gyda dementia. Yn 2021, llwyddodd y gwasanaeth i gefnogi cynnwys ystyriaethau clyw yn Safonau Dementia Llywodraeth Cymru.