Neidio i'r prif gynnwy

Cydbwysedd

Rydym yn cynnal ein cydbwysedd drwy ddefnyddio cymysgedd o systemau gwahanol: y llygaid, y clustiau, a gwybodaeth gan ein cyhyrau a'r cymalau. 

Yn Awdioleg, rydym yn arbenigo mewn profi anawsterau cydbwysedd a'u trin o ganlyniad i broblemau yn y glust (y system festibwlar).  Mae'r system hon yn eich helpu i wybod ble rydych pan rydych yn symud eich pen.  Mae problem gyda'r system hon yn gallu gwneud rhywun deimlo'n benysgafn, yn aml teimlo fel pe baent yn symud hyd yn oed pan nad ydynt. 

Fertigo Lleoliadol Gwasgfaol Anfalaen

Y tu mewn i'r glust fewnol, mae crisialau calchog bach sy'n gallu dod yn rhydd ac arnofio mewn rhan wahanol o'r system festibwlar.  Pan fo hyn yn digwydd, efallai y bydd unigolion yn profi teimlad byr o droelli pan maent yn edrych am i fyny, yn plygu i lawr, yn gorwedd neu'n troi drosodd yn y gwely. Weithiau bydd y broblem yn datrys ohono'i hun.   Os nad ydyw, rydym yn gwneud symudiad ail-leoli (repositioning manoeuvre) yn yr Adran Awdioleg i symud y crisialau yn ôl i ble ddylent fod.

Os ydych wedi cael eich trin am BPPV o'r blaen, a'ch bod yn teimlo bod eich penysgafnder yn ôl yna ffoniwch ni.

Asesiadau festibwlar

Weithiau nid yw'n glir pam fod unigolion yn cael cyfnodau o benysgafnder, ac felly rydym angen gwneud mwy o brofion i ddeall y broblem yn well.  Oherwydd y cysylltiad agos rhwng eich llygaid a'r system festibwlar, rydym yn gallu profi eich system festibwlar drwy gofnodi symudiadau eich llygaid wrth i chi wneud tasgau gwahanol. Yn dibynnu ar y math o broblem sydd gennych, efallai y byddwn hefyd yn gwneud prawf i edrych ar eich cydbwysedd cyffredinol wrth sefyll, neu efallai y byddwn yn rhoi dŵr yn eich clustiau i fesur pa mor dda mae eich system festibwlar yn ymateb.

Adsefydlu Festibwlar (Ysbyty Maelor Wrecsam yn unig)

Gall adran awdioleg roi ymarferion i helpu i ailhyfforddi eich ymennydd i wrando ar y systemau cydbwysedd gwahanol (llygaid, clustiau a chyhyrau a chymalau).  Mae'r ymarferion wedi'u dylunio i'ch gwneud chi deimlo ychydig yn benysgafn wrth i chi eu gwneud, ond mae hyn yn helpu eich ymennydd i ddysgu, ac i leihau eich symptomau yn y tymor hir.

Os ydych wedi cael eich gweld ar gyfer adsefydlu festibwlar o'r blaen, a'ch bod yn teimlo bod eich problemau wedi dod yn ôl yna ffoniwch ni.