Diffiniad Cyffredinol – mae anabledd dysgu yn gyflwr sylweddol, gydol oes sy’n dechrau cyn i unigolyn fod yn oedolyn ac sy’n effeithio ar ei ddatblygiad, gan olygu ei bod hi'n bosibl bod angen help arno i ddeall gwybodaeth, dysgu sgiliau a byw’n annibynnol.
Diffiniad Mencap – “mae anabledd dysgu yn golygu llai o allu deallusol ac anhawster gyda gweithgareddau bob dydd – er enghraifft tasgau yn y cartref, cymdeithasu neu reoli arian – sy’n effeithio ar rywun drwy gydol eu bywyd”.
Bydd plentyn neu unigolyn ifanc yn ymddwyn yn wahanol a bydd ganddynt eu cryfderau a’u hanawsterau eu hunain.