Mae deintyddion yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol medrus a hyfforddedig, er enghraifft fe allech weld therapydd ar gyfer llenwad. Yn debyg i leoliadau gofal iechyd eraill, ble y gallech gael eich gweld gan nyrs practis neu ffisiotherapydd yn hytrach na meddyg, yn dibynnu ar anghenion eich gofal.
Dyma restr o driniaethau a gweithredoedd y gall therapydd deintyddol eu darparu fel y cânt eu nodi gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol:
- Asesiad y tu mewn a'r tu allan i'r geg
- Cofnodi sgorau a mesuriadau a monitro afiechyd
- Triniaeth beridontal (triniaeth ar gyfer afiechyd deintgig)
- Rhoi deunyddiau ar ddannedd megis fflworid a selyddion hollt
- Cymryd Radiograffau Deintyddol (pelydr-X)
- Darparu addysg iechyd deintyddol ar sail un i un neu mewn sefyllfa grŵp
- Adferiadau yn ôl y galw (llenwadau) mewn dannedd cyntaf a pharhaol, i oedolion a phlant, o baratoadau ceudod Ddosbarth 1-V
- Yn gallu defnyddio'r holl ddeunyddiau ar wahân i osodiadau rhag-gastio neu binio
- Trin oedolion yn ogystal â phlant
- Tynnu dannedd cyntaf (Babi) o dan boen laddwr lleol
- Triniaeth therapi bywyn dannedd cyntaf
- Gosod coronau wedi eu llunio o flaen llaw ar ddannedd cyntaf
- Gweinyddu poen laddwr Bloc Nerfau Deintyddol Israddol a phoen laddwr Ymdreiddiol (Pigiadau deintyddol)
- Ail osod coronau a llenwadau brys dros dro
- Cymryd argraffiadau
- Trin cleifion o dan lonyddiad ymwybodol cyn belled â bod y deintyddion yn aros yn y ddeintyddfa drwy gydol y driniaeth