Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Ddeintyddol

Mae nyrsys deintyddol yn gweithio ochr yn ochr ac yn cynorthwyo deintyddion, therapyddion a hylenyddion mewn gofal cleifion. Mae'n swydd amrywiol ac yn gallu cynnwys popeth o gynorthwyo gydag archwiliadau arferol i uwch driniaethau arbenigol.

Rhan bwysig iawn o'r rôl yw gwneud i'r claf ymlacio a theimlo’n gyffyrddus yn ystod apwyntiadau. Mae cyfrifoldebau eraill yn cynnwys paratoi deunyddiau ar gyfer triniaeth, tynnu poer o geg y claf yn ystod triniaeth, cadw cofnodion ar gyfer y deintydd, diheintio cyfarpar, rheoli stoc, glanhau a thacluso'r ddeintyddfa.

Mae rhai nyrsys deintyddol yn ymgymryd â chymwysterau ychwanegol wedi cwblhau eu cwrs nyrsio deintyddol sylfaenol er mwyn derbyn cyfrifoldeb dros dasgau uwch megis; cymryd sganiau CBCT a phelydr X, cynorthwyo gyda llonyddiad geneuol, gweinyddu addysg hylendid y geg, cymryd argraffiadau neu ffotograffau neu roi fflworid arwynebol.