Neidio i'r prif gynnwy

Y galw presennol am wasanaethau deintyddol

Mae’r galw ar wasanaethau deintyddol yn ddigynsail ar hyn o bryd oherwydd effeithiau’r pandemig COVID-19. Mae’n ofynnol i bractisiau deintyddol gydymffurfio â gweithdrefnau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru sy’n cyfateb i’r gofynion atal a rheoli heintiau parhaus. Rhoddir y mesurau hyn ar waith i amddiffyn cleifion, staff a’r gymuned. Fodd bynnag, mae’r mesurau hyn yn arwain at ostyngiad yng nghapasiti’r practis a nifer y cleifion y gellir eu cymryd ar un adeg.

Gofynnwyd i ni flaenoriaethu triniaeth ar sail angen clinigol a darparu triniaeth i gleifion brys a chleifion â blaenoriaeth uchel. Mae’n bosibl y bydd practisiau â chapasiti digonol yn gallu dechrau galw eu cleifion yn ôl sy’n hwyr ar gyfer eu harchwiliad deintyddol GIG rheolaidd a chymryd cleifion ychwanegol.