Er nad yw’n bosibl dileu risgiau COVID-19 mewn deintyddiaeth, mae’r risg hon yn cael ei rheoli ar hyn o bryd gan:
- Gweithredu gwasanaeth brysbennu dros y ffôn i drefnu apwyntiadau wyneb yn wyneb
- Gofyn i gleifion wisgo gorchuddion wyneb
- Gofyn i gleifion fynychu apwyntiadau ar eu pennau eu hunain i helpu cadw pellter cymdeithasol
- Gofyn i gleifion i gadw pellter cymdeithasol tra byddant y tu mewn i bractisiau deintyddol a defnyddio sgriniau amddiffynnol lle nad yw hyn yn bosibl
- Defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol priodol
- Osgoi triniaethau deintyddol sy’n cynhyrchu erosolau lle’n bosibl
- Gadael cyfnod segur hyd at 1 awr wedi unrhyw weithred sy’n cynhyrchu erosolau er mwyn i’r aer newid cyn glanhau’n drylwyr
- Defnyddio technoleg i helpu newid a/neu hidlo’r aer ar ôl unrhyw driniaethau sy’n cynhyrchu erosol i helpu lleihau’r cyfnod segur gofynnol