Neidio i'r prif gynnwy

Pam y galla' i gael fy ngweld gan bractis preifat?

Mae’n ofynnol i bractisiau deintyddol y GIG gydymffurfio â gweithdrefnau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n cyfateb i’r gofynion atal a rheoli heintiau parhaus. Rhoddir y mesurau hyn ar waith i amddiffyn cleifion, staff a’r gymuned. Fodd bynnag, mae’r mesurau hyn yn arwain at ostyngiad yng nghapasiti’r practis a nifer y cleifion y gellir eu cymryd ar un adeg.

Nid yw practisiau preifat yn gweithredu o dan ganllawiau’r GIG ac maent yn gweithio i’w gweithdrefnau gweithredu cytûn eu hunain. Nid yw practisiau preifat yn cael eu monitro gan y GIG na’r Bwrdd Iechyd.