Neidio i'r prif gynnwy

Pam mai ond plant y mae fy mhractis deintyddol GIG lleol yn eu gweld?

Mae nifer fach o bractisiau sy’n cynnig mynediad cyfyngedig i blant yn unig. Mae mwyafrif ein bractisiau yn cynnig gwasanaethau i bob oed. Gofynnwyd i ni sicrhau bod practisiau’r GIG yn parhau i flaenoriaethu triniaeth i gleifion brys a’r cleifion hynny lle gallai oedi achosi poen neu niwed arall.

Bydd mynediad y cleifion at wasanaethau deintyddol rheolaidd a thriniaeth nad yw’n frys yn parhau i fod yn gyfyngedig tra bydd protocolau traws-heintio a phellhau cymdeithasol cyfredol yn parhau i fod ar waith, er efallai y bydd practisiau â chapasiti digonol yn gallu galw eu cleifion yn ôl sy’n hwyr ar gyfer eu harchwiliad deintyddol GIG rheolaidd a chymryd cleifion newydd ychwanegol.