Dim ond pan na ellir cynnig dewis arall y dylid canslo apwyntiadau i weld deintydd.
Mae practisiau deintyddol ar draws Gogledd Cymru yn parhau i ddilyn y mesurau rheoli haint COVID-19 a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn er diogelwch y cleifion, staff a’r gymuned ehangach ac mae hyn wedi lleihau nifer yr apwyntiadau deintyddol.
Mae’n ofynnol i ddeintyddion flaenoriaethu mynediad at driniaeth ar sail angen glinigol a darparu triniaeth i gleifion brys a chleifion â blaenoriaeth uchel. Mae hyn wedi achosi i rai apwyntiadau dilynol a oedd wedi’u trefnu cyn y pandemig gael eu canslo er mwyn blaenoriaethu cleifion sydd angen triniaeth ddeintyddol frys.
Mae’n bosibl y bydd rai practisiau â chapasiti digonol yn gallu dechrau galw’r cleifion sy’n hwyr i gael eu harchwiliad deintyddol GIG rheolaidd yn ôl a chymryd cleifion newydd.