Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor aml y dylwn i gael archwiliad arferol gyda deintydd?

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi cyhoeddi canllawiau i helpu deintyddion benderfynu pa mor aml y mae angen archwiliad rheolaidd ar bob claf. Os ydych wedi arfer ag archwiliadau rheolaidd bob chwe mis, nid yw hwn bob amser yn wir mwyach. Gall yr amser rhwng archwiliadau rheolaidd fod yn hirach neu’n fyrrach yn dibynnu ar ba mor iach yw eich dannedd a’ch deintgig. Bydd eich deintydd yn trafod hyn gyda chi ac yn penderfynu ar faint o amser fydd ei angen tan eich archwiliad nesaf.

Pan fyddwch yn ymweld â'ch deintydd am eich archwiliad arferol, bydd eich dannedd a'ch deintgig yn cael eu hasesu ac yn dibynnu ar ba mor dda yw iechyd eich ceg, rhoddir lliw coch, oren neu wyrdd i chi ar eich ACORN (Asesiad o Risg ac Angen Clinigol y Geg)

  • Coch = Pydredd Dannedd Gweithredol
  • Ambr = Yn Wynebu Risg
  • Gwyrdd = Risg Isel, dim pydredd

Cleifion GWYRDD- mae eich iechyd deintyddol yn dda ac rydych yn gofalu am eich dannedd; gofynnir i chi ddychwelyd bob 12 mis neu'n llai amlach na hynny i gael archwiliad.

Cleifion COCH ac AMBR – mae eich iechyd deintyddol yn salach ac efallai y gofynnir i chi ddod i gael archwiliad bob 3, 6 neu 9 mis i sicrhau bod unrhyw broblemau'n cael eu nodi a'u trin yn brydlon.  Byddwch hefyd yn cael arweiniad a chyngor ynghylch sut y gallwch wella iechyd eich ceg.  Cyfrifoldeb cleifion yw gofalu am eu dannedd eu hunain a dilyn/gweithredu’r arweiniad a roddir gan y deintydd ac aelodau’r tîm deintyddol.