Pan fyddwch yn cael eich trin gan Ddeintydd y GIG mae gennych hawl i’r canlynol:
- Amcangyfrif ysgrifenedig a chynllun triniaeth sy’n manylu ar driniaethau’r GIG ac unrhyw driniaeth breifat yr ydych wedi cytuno iddi
- Taflen wybodaeth practis
- Pob triniaeth angenrheidiol i sicrhau a chynnal iechyd y geg
- Cyngor a, lle bo angen, triniaeth mewn argyfwng
- Set genedlaethol o daliadau
- Tâl uchaf am bob cwrs o driniaeth
- Triniaeth yn rhad ac am ddim neu am gost is i rai grwpiau o gleifion
- I rai cleifion, archwiliad ac weithiau triniaeth wedi’i darparu yn eu cartref
- Mynediad at drefn gwyno ffurfiol
- Yr opsiwn o driniaeth breifat yn lle, neu’n ychwanegol at driniaeth GIG.